Dair blynedd yn ôl, ar 21 Mawrth 2022, ymunodd Cymru â dros 60 o wledydd ledled y byd sydd wedi gwneud cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon. Prif nod y ddeddfwriaeth nodedig yma yw helpu i amddiffyn plant a’u hawliau.
Mae’r gyfraith yn berthnasol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr â Chymru. Mae’n rhoi’r un amddiffyniad i blant yn erbyn ymosodiad ag sydd gan oedolion, ac mae’n golygu bod cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon ym mhobman yng Nghymru.
Er mai smacio sy’n dod i’r meddwl yn gyntaf, gall cosbi corfforol fod ar sawl ffurf, gan gynnwys taro, slapio ac ysgwyd. Mae ymchwil yn awgrymu bod unrhyw fath o gosbi corfforol yn gallu bod yn niweidiol i blant.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni drwy roi cyngor am ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant, yn ogystal ag ariannu cyrsiau magu plant i’w cynnig fel opsiwn yn lle erlid rhieni. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar dechnegau ymarferol i ddisgyblu a gosod ffiniau, gan feithrin perthynas wresog a pharchus rhwng rhiant a phlentyn.
Meddai Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden:
“Dair blynedd yn ddiweddarach, rwy’n hynod falch fod Cymru wedi cymryd y cam hanfodol yma. Does dim lle i gosbi corfforol yng Nghymru fodern.
“Mae magu plant heb eu cosbi’n gorfforol yn meithrin ymdeimlad o ymddiriedaeth, diogelwch a chysylltiad. Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthon ni fod angen i blant deimlo’n ddiogel ac yn sicr yn eu teulu a’u cartref. Pan fyddan nhw’n teimlo cefnogaeth yn lle ofn, mae ganddyn nhw’r cyfle gorau i ffynnu.”
Llwyfan i rieni a gofalwyr yng Nghymru yw Teulu Cymru, sy’n cynnig cyngor ymarferol ac arbenigol ar fagu plant o’u geni hyd at fod yn 18 oed. Dilynwch Teulu Cymru ar Facebook a teulu.cymru ar Instagram i weld y cyngor a diweddariadau am y cymorth ariannol sydd ar gael i rieni.
Dilynwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth ar roi diwedd ar gosbi corfforol ac i archwilio technegau magu plant cadarnhaol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/teulu-cymru