GALL ffliw a COVID-19 fod yn beryglus, yn enwedig i rai pobl, fel y rheiny â chyflyrau iechyd hirdymor. Derbyniwyd bron i 2,000 o bobl i’r ysbyty o ganlyniad i’r ffliw yng Nghymru y llynedd.
Mae dros 467,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu dosbarthu fel rhai sy’n wynebu risg glinigol, sy’n cynnwys pobl â chyflyrau fel asthma, Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD), diabetes, clefyd yr iau/afu neu glefyd anadlol.
Mae Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn esbonio, “Efallai nad yw llawer o bobl â chyflyrau cyffredin fel asthma neu ddiabetes yn ystyried eu hunain mewn perygl clinigol, ond gall ffliw fod yn ddifrifol i bobl â chyflyrau iechyd presennol. Mae’n hysbys iawn mai cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag ffliw.
“Yn yr un modd, mae brechiad hydref COVID-19 yn ymestyn yr amddiffyniad rhag salwch difrifol. Mae unrhyw sgîl-effeithiau o’r brechiadau fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn para’n hir.“
Gallwch hefyd amddiffyn eich plant dwy a thair oed yn ogystal â phlant oed ysgol hyd at a chan gynnwys blwyddyn 11 trwy wneud yn siŵr eu bod yn cael y brechlyn ffliw chwistrell trwyn rhad ac am ddim, di-boen bob blwyddyn.
Chwiliwch am ‘Brechlynnau Iechyd Cyhoeddus Cymru’ i weld a ydych yn gymwys.