GALL y ffliw a COVID-19 fod yn beryglus, yn enwedig i rai pobl, fel y rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Mae dros 467,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu hystyried fel pobl sy’n wynebu risg glinigol. Yng Nghymru y llynedd, cafodd bron i 2,000 o bobl eu derbyn i’r ysbyty gyda’r ffliw.
I roi hwb i’ch amddiffyniad, mae’n bwysig i chi gael eich brechu ychydig wythnosau cyn i dymor y ffliw ddechrau, sef tua chanol mis Rhagfyr fel arfer yng Nghymru.
Esbonia Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Gall straeniau feirysau ffliw sy’n lledaenu newid dros amser, a gall imiwnedd yn erbyn COVID-19 leihau o flwyddyn i flwyddyn. Dyna pam mae’n bwysig rhoi hwb i’ch amddiffyniad drwy gael y brechlynnau diweddaraf sy’n cael eu cynnig i chi.
“Does neb eisiau bod yn sâl neu yn yr ysbyty gyda’r ffliw neu COVID-19, yn enwedig dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, felly mae’n werth cael eich brechlynnau’n fuan. Mae brechiadau’n helpu i ymestyn eich amddiffyniad rhag salwch difrifol. Mae unrhyw sgil-effeithiau o’r brechiadau fel arfer yn ysgafn a dydyn nhw ddim yn para’n hir.”
Nid yw’n rhy hwyr chwaith i amddiffyn eich plant (dwy flwydd oed i oedran ysgol hyd at ac yn cynnwys blwyddyn 11) rhag salwch difrifol drwy drefnu iddyn nhw gael eu brechlyn ffliw am ddim ar ffurf chwistrell trwyn ddi-boen.
Chwiliwch am ‘Brechlynnau Iechyd Cyhoeddus Cymru’ i weld a ydych chi’n gymwys a sut i gael eich brechlynnau.