WRTH ddymuno blwyddyn newydd dda i’r Prif Weinidog, mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod angen i’r Llywodraeth wneud llawer mwy os ydyn nhw am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
Gadawodd aelodau’r Gymdeithas gerdyn Calan yn swyddfa Eluned Morgan yn Hwlffordd heddiw.
Mae’r cerdyn yn tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 25 mlynedd sydd ar ôl i gyrraedd miliwn o siaradwyr a bod angen gweithredu brys er mwyn gwireddu’r nod.
Dywedodd Joseff Gnagbo, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Dydy’r Llywodraeth ddim yn cymryd ei tharged ei hunan o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 o ddifri.
“Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 ac ymateb y Llywodraeth iddyn nhw’n dangos hynny.
“Mae’r Llywodraeth wedi gosod y targed yma ers 2016 ond ar hyd yr amser ers hynny dydyn ni ddim wedi gweld y gweithredu sydd ei angen i’w gyrraedd.
“Cwympodd nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru, yn enwedig yn ei chadarnleoedd traddodiadol.
“Fel mae pethau, mae cyfleoedd mawr yn cael eu colli - mae Bil y Gymraeg ac Addysg yn cael ei gyflwyno i’r Senedd yn hwyrach yn y mis, ond fydd e ddim yn rhoi addysg Gymraeg i bawb.
“Ers ymrwymo yn gynnar yn 2024 i greu corff darlledu i baratoi’r ffordd ar gyfer datganoli grymoedd dros ddarlledu does dim byd wedi digwydd.
“Doedd y papur gwyn ar dai a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd ddim yn rhoi unrhyw hawliau i bobl i gartref; a does dim disgwyl ymateb i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a gyhoeddwyd ym mis Awst, tan y gwanwyn."
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i fynd ati ar unwaith gan ddechrau gyda’r blaenoriaethau canlynol:
- Cryfhau Bil y Gymraeg ac Addysg yn sylweddol er mwyn rhoi addysg Gymraeg i bawb
- Sefydlu Corff Darlledu a Chyfathrebu ar fyrder er mwyn paratoi’r ffordd at ddatganoli darlledu, fel sydd wedi ei addo
- Cynllunio i gyflwyno Deddf Eiddo er mwyn galluogi pobl i gael cartref yn eu cymunedau
- Gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a chreu Strategaeth Ardaloedd Gwledig er mwyn diogelu ac adfer cymunedau Cymraeg
- Ymestyn hawliau clir drwy ddeddfwriaeth i bobl allu defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau. Yn arbennig, trwy ymestyn y rhwymedigaeth i'r sector preifat ddarparu gwasanaeth Cymraeg
- Ymestyn y ddarpariaeth iechyd a gofal yn Gymraeg trwy sicrhau gweithredu deddfwriaeth gan gynnwys Strategaeth Mwy na Geiriau yn effeithiol
- Datblygu defnydd y Gymraeg ym maes technoleg
- Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio fel iaith gwaith yn y gwasanaeth sifil ac mewn gweithluoedd eraill.
Ychwanegodd Joseff Gnagbo: “Er bod amser yn brin, dydy hi ddim yn rhy hwyr.
“Os ydy’r Llywodraeth o ddifri am y Gymraeg rhaid gweithredu yn flaengar ar draws nifer o feysydd a gwneud yr iaith yn flaenoriaeth.
“Bydd ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith yn dwyn y Llywodraeth hon i gyfrif ac rydyn ni’n galw ar ein holl gefnogwyr i ymuno yn y gwaith ar ddechrau 2025.”