MAE Noel Thomas, y cyn is-bostfeistr o Fôn fu’n rhan o sgandal Horizon Swyddfa’r Post wedi disgrifio’r anrhydedd o gael ei urddo gan Orsedd y Beirdd eleni fel un o uchafbwyntiau ei fywyd.
Mae’n siarad am y profiad mewn rhaglen estynedig o Sgwrs dan y Lloer ar S4C ar 29 Rhagfyr.
“Fel Cymro Cymraeg”, meddai, “fedrwn i’m cael dim gwell. Nes i’m meddwl base’r fath beth yn digwydd ma’ raid mi ddeud.”
Mae e hefyd yn cyfeirio at yr achlysur yn gynharach eleni o dderbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor fel achlysur sydd wedi bod yn drobwynt yn ei fywyd.
Meddai: “Nes i rioed feddwl baswn i yng nghanol pobl sy’n fwy dawnus na fi, fel hogyn cyffredin yn cael fy Doctorate. Dr Noel! Nes i rioed feddwl sw’n i’n cael y fath air o ‘mlaen! Achos Noel Post dwi di bod drwy’n oes.
“Sa’ ‘Nhad ‘di dychryn. Fase fo wrth ‘i fodd, ond eto fasa fo’n deud ‘argian, rwyt ti’n rwdlan! Sa’n anrhydedd iddyn nhw hefyd.”
Fe gafodd Noel Thomas ei ddedfrydu i naw mis o garchar yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o’i gyfrifon.
Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post.
Yn y rhaglen, mae’n disgrifio’r profiad o fynd i garchar Walton: “O’n i fod i fynd i Altcourse, carchar agored, ond yn anffodus doedd dim lle a mi landish i’n Walton - uffern ar y ddaear a bod yn onest. Fues i yna am 8 diwrnod, a ges i’n hel i Kirkham wrth ymyl Blackpool. Ond yn yr 8 diwrnod ‘na yn Walton, ro’n i’n gorfod cael fy nghau mewn bron drwy’r dydd.
“Ro’n i’n rhannu efo Ian - Sgowsar, a ‘ma’n rhaid i mi ddeud os ‘sw’n i’n cyfarfod Ian rŵan, faswn i’n falch iawn o ysgwyd ei law o, achos mi gadwodd o fi fynd. A chwarae teg iddo, mi ro’th fi ben ffordd. Mi fuodd o’n gefn mawr i mi yn y dechrau tywyll yna."
Mae Noel yn dweud i’r profiad o fynd i garchar adael ei ôl arno am y tair blynedd wedi hynny: “O’dd hi’n anodd iawn trio gwybod sut i ddelio efo pethau. Do’n i’m yn licio cau drws. O’n i’m yn licio cael fy nghau fewn. Lwcus mod i’n byw yn rhywle fel Sir Fôn; o’n i’n mynd allan a cerdded, a diflannu am dipyn o oriau; dyma ffor’ o’n i’n cael dros y peth.”
Cafodd ei euogfarn ei gwrthdroi yn 2021, ac mae Noel yn cofio’n ôl i’r diwrnod ‘anhygoel’ pan gafodd ei enw ei glirio, a daeth tro ar fyd.
“Dwi ‘di bod i fyny’r ystôl; i lawr yr ystôl, a diolch i’r nefoedd dan ni nôl bron iawn ar y top rŵan. Ma’n rhaid i mi ddiolch i ‘nheulu ac i fy ffydd.”