BYDD y comedïwr Elis James yn dod â digon o hwyl a chwerthin i gynulleidfaoedd dros yr ŵyl gyda’i sioe stand-yp newydd a hir-ddisgwyliedig, Derwydd, fydd i’w gweld ar S4C am 9.15pm ar 26 Rhagfyr.

Nol ym mis Tachwedd, cafodd Derwydd ei ffilmio yn theatr Y Lyric yng Nghaerfyrddin, y dref lle gafodd Elis James ei fagu, ar ôl iddo deithio’r sioe dros Gymru.

Fel un o’r comediwyr mwyaf poblogaidd ac uchel ei barch yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, mae Elis James wedi adeiladu gyrfa o amgylch ei gomedi arsylwadol, sydd yn aml wedi’i ysbrydoli gan ei fagwraeth yng Ngorllewin Cymru.

Mae Derwydd yn dilyn sawl sioe stand-yp arall y mae Elis wedi’i ysgrifennu yn Gymraeg – rhywbeth sy’n bwysig iawn iddo.

Meddai: “O'r holl bethau fi’n neud- ysgrifennu sioe stand-yp yn y Gymraeg yw’r peth sy’n rhoi’r mwyaf o bleser a boddhad i fi.

“Dyma’r pedwerydd sioe Gymraeg fi wedi sgwennu ers 2015. Sai di sgwennu sioe Saesneg ers 2012 a fi’n dechrau amau nawr bod Saesneg ddim yn iaith ddoniol!

“Ond mae’r ffaith bod 900 o bobl wedi dod i’r Lyric i weld fi’n recordio’r sioe ‘ma- mae e’n meddwl y byd felly fi ffili aros i wylwyr S4C weld y sioe dros y Nadolig.”

O ddydd i ddydd, mae Elis James hefyd yn adnabyddus fel darlledwr ac mae’n cyflwyno sawl podlediad.

Ers 2014, mae o wedi cyflwyno sioe radio gyda’i ffrind, y comedïwr John Robins, yn gyntaf ar Radio X a bellach ar BBC 5 Live.

Mae o hefyd yn cyflwyno’r podlediad The Socially Distant Sports Bar gyda’r comedïwr Mike Bubbins a’r newyddiadurwr Steffan Garrero ac Elis James’ Feast of Football gyda cyn-chwaraewyr Cymru Iwan Roberts a Danny Gabbidon.

Mi roedd o hefyd yn actio yn y rhaglen deledu boblogaidd Tourist Trap ar BBC One Wales ac yn cyd-gyflwyno’r Fantasy Football League gyda Matt Lucas wedi iddo gael ei adfywio ar gyfer Sky Max.

Bydd Derwydd i’w gweld ar S4C ar 26 Rhagfyr am 9.15 neu ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.