YN dilyn ymgyrch farchnata fer, a nifer o geisiadau ardderchog, penodwyd pum cyfarwyddwr gwirfoddol newydd ar gyfer Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd Mentrau Iaith Cymru.
Sefydlwyd Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn 1999 gan fod y Mentrau Iaith lleol wedi adnabod yr angen i gyfarfod ar lefel genedlaethol i rannu profiadau a chydweithio.
Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae MIC yn gorff ymbarél cenedlaethol sy’n cynnal rhwydwaith genedlaethol i’r Mentrau, yn darparu cymorth a chefnogaeth iddynt, yn eirioli ar eu rhan ac yn darparu llais a phresenoldeb cenedlaethol iddynt.
Mae MIC hefyd yn cydlynu prosiectau cenedlaethol blynyddol o fewn y Mentrau, fel Cwis Dim Clem a’r Cwis Mawr, ac yn rheoli prosiectau cenedlaethol i uchafu’r gweithgarwch ar lefel leol, ond ar raddfa ranbarthol neu’n genedlaethol.
Yn hanesyddol staff ac aelodau byrddau rheoli’r Mentrau oedd cyfarwyddwyr MIC, ond erbyn heddiw, gwelwyd yr angen am wrthrychedd a syniadau ffres i’r gwaith ac aed ati yn dilyn adroddiad annibynnol ar lywodraethiant MIC i sefydlu Bwrdd newydd.
Y pum cyfarwyddwr newydd yw:
Llinos Evans, sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn sir Gâr, ac yn gweithio yn y maes polisi a chydraddoldeb yn y sir honno,
Katharine Young, sy’n dod o Loegr yn wreiddiol, wedi ei magu yng Ngwynedd, bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac yn darlithio i Brifysgol Metropolitan Caerdydd,
Hawys Roberts, sy’n byw yng Ngheredigion ac yn gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg,
Ffion Gruffudd, sy’n dod o Gwrtnewydd, yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Gyngor Dinas Caerdydd,
Sara Pennant Jones, sydd wedi ei geni a’u magu yng Ngwynedd, bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Estyn.
Fe fydd y 5 yn ymuno gyda 6 cyfarwyddwr presennol Mentrau Iaith Cymru sy’n cynrychioli’r dair rhanbarth: Dewi Snelson – Menter Gorllewin Sir Gâr; Owain Gruffydd – Menter Dinefwr; Meirion Davies – Menter Iaith Conwy; Maiwenn Berry – Menter Iaith Fflint a Wrecsam; Lowri Jones – Menter Iaith Sir Caerffili; Osian Rowlands – Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.
Yn ôl Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr gweithredol MIC: “Roedden ni wrth ein boddau gyda’r diddordeb yn y broses hon ac wedi ein syfrdanu gan ansawdd y ceisiadau.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael cydweithio gyda’r criw brwdfrydig yma ac yn ffyddiog eu bod yn darparu cyfuniad o brofiad a newydd-deb i waith y rhwydwaith a fydd yn ein cynorthwyo i barhau i gynyddu defnydd pobl o’r Gymraeg yn ein cymunedau.”