Bydd S4C yn dathlu tymor y Nadolig gydag amserlen ddisglair o raglenni fydd yn swyno’r holl emosiynau.
O gomedi stand-yp doniol gydag Elis James, canu o’r galon gyda Bronwen Lewis ac Aled Jones, drama drosedd afaelgar Ar y Ffin gydag Erin Richards, a chyfle i syrthio mewn cariad ar y llethrau gydag Elin Fflur, mae gan y sianel rhywbeth i bawb.
Bydd cyfle i wylwyr fwynhau cymysgedd Nadoligaidd o gynnwys gwreiddiol a ffefrynnau cyfarwydd fel Sgwrs Dan y Lloer a rhifyn arbennig o Priodas Pymtheg Mil ynghyd â chynyrchiadau cyffrous newydd yn fuan wedi’r Ŵyl, fel y gyfres ddêtio newydd Amour a Mynydd ar lethrau Alpau Ffrainc a taith Iolo Williams a’i fab yn Iolo a Dewi: Y Tad a'r Mab a Zambia.
I blant bydd digon i’w diddanu gyda chyfres newydd o’r ddrama sci-fi llawn dirgelwch, Itopia, i’r gyfres ddiweddara o Mabinogi-ogi a’u hoff rifynnau Nadolig o Deian a Loli.
Wedi i’r plant swatio yn eu gwlâu, setlwch ar y soffa i fwynhau’r ddrama drosedd llawn tensiwn Ar y Ffin gyda Erin Richards, Tom Cullen a Matthew Gravelle (check spelling) wedi’i lleoli yng Nghasnewydd.
Yn fyw o’r meysydd chwaraeon bydd dwy gêm ddarbi yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig i’w gweld yn fyw ar Clwb Rygbi gyda’r Dreigiau yn erbyn Caerdydd ar ddiwrnod San Steffan a’r Scarlets yn erbyn y Dreigiau ar 1 Ionawr.
Bydd Clwb Rygbi hefyd yn darlledu gemau Super Rygbi Cymru rhwng Caerdydd a Chasnewydd ar 22 Rhagfyr a RGC yn erbyn Pen-y-Bont ar 28 Rhagfyr.
Bydd Sgorio yn darlledu’r ddwy gêm bêl-droed rhwng Caernarfon a’r Seintiau Newydd hefyd ar ddiwrnod San Steffan a Pen-y-bont a Met Caerdydd ar 31 Rhagfyr yn fyw.
I gwblhau’r arlwy bydd penodau Nadolig arbennig o ffefrynnau S4C, yn cynnwys Noson Lawen, Cefn Gwlad o Seland Newydd, Pobol y Cwm, Rownd a Rownd, Am Dro! Selebs!, Dechrau Canu Dechrau Canmol, Canu Gyda fy Arwr: Aled Jones a llawer mwy.
Gyda chyfuniad o lawenydd, cyffro, chwerthin a chymuned, mae rhywbeth i bawb ar S4C y Nadolig hwn.
Deian a Loli (cyfres 1 & 2) 03.12.24 N/A
Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs 15.12.24 16:00
Itopia 16.12.24 N/A
C’mon Midffild: Nadolig Llawen? 18.12.24 20:25
Carol yr Ŵyl 20.12.24 20:00
Noson Lawen ‘Dolig 21.12.24 19:30
Nia Ben Aur 21.12.24 20:30
Clwb Rygbi: Caerdydd v Casnewydd 22.12.24 17:00
Dechrau Canu Dechrau Canmol 22.12.24 19:00
Goreuon Ryan a Ronnie 22.12.24 20:00
Ffa Coffi Pawb! 22.12.24 21:00
Sgwrs Dan y Lloer: Daf James 23.12.24 20:00
Cefn Gwlad: Palmant Aur y Kiwis 23.12.24 21.00
Midffild Y Mwfi 23.12.24 22:30
HaHaHansh (digital only) 23.12.24 N/A
Bronwen Lewis: O'r Stafell Fyw 24.12.24 20:30
Jonathan: Dathlu 20 24.12.24 21:30
Canu Gyda Fy Arwr: Aled Jones 25.12.24 19:00
Priodas Pymtheg Mil 25.12.24 20:00
Pobol y Cwm 25.12.24 21:00
Mwy o Ryan a Ronnie 25.12.24 23:00
Sgorio: Caernarfon v Y Seintiau Newydd 26.12.24 14:30
Clwb Rygbi: Dreigiau v Caerdydd 26.12.24 17:00
Iolo a Dewi: Y Tad a’r Mab a Zambia 26.12.24 19:15
Rownd a Rownd 26.12.24 20:15
Elis James: Derwydd 26.12.24 21:15
Dai ar y Piste 26.12.24 23:20
Dathlu Dewrder 27.12.24 20:00
Gogglebocs ‘Dolig 27.12.24 21:00
Clwb Rygbi: RGC v Pen-y-bont 28.12.24 16:30
Noson Lawen Pobol y Cwm 28.12.24 19:30
Eden 28.12.24 20:30
Sgwrs Dan y Lloer: Noel Thomas 29.12.24 20:00
Ar y Ffin (box set available after episode 1) 29.12.24 21:00
Mabinogi-ogi a Mwy 30.12.24 17:35
Newyddion 2024 30.12.24 19.15
Ralio yn 20 30.12.24 20.00
Cefn Gwlad: Kiwis Cymreig 30.12.24 21.00
Deian a Loli: Cyfres Newydd 31.12.24 07.40
Sgorio: Pen-y-Bont v Met Caerdydd 31.12.24 17:20
Noson Lawen Bryn Fon 31.12.24 21:00
Heno Nos Galan 31.12.24 22:30
Clwb Rygbi: Scarlets v Dreigiau 01.01.25 17:00
Am Dro! Selebs! 01.01.25 20:00
Amour a Mynydd 01.01.24 21:00
Tisho Fforc? Blwyddyn Newydd Dda! 01.01.24 22.00
Llofruddiaeth Bwa Croes Rhan 1 02.01.24 21:00
Llofruddiaeth Bwa Croes Rhan 2 03.01.24 21:00