MAE’R gantores a’r gyflwynwraig Non Parry wedi trafod ei deiagnosis ADHD hwyr yn agored. Nawr, mae wedi cyhoeddi cyfrol newydd ar ôl gwahodd eraill i drafod realiti byw gydag awtistiaeth ac ADHD.

Mae’r gyfrol, Dynol Iawn, yn cynnwys ysgrifau a cherddi gan bobol adnabyddus gan gynnwys Caryl Parry Jones, Elin Llwyd Morgan a Gruffudd Owen.

Mae rhai yn agor eu calonnau am eu deiagnosis ADHD ac awtistiaeth nhw ac eraill yn famau, yn dadau ac yn chwiorydd, pob un yn mynegi eu profiadau yn ddiflewyn-ar-dafod am yr heriau o fyw gyda chyflyrau sy’n haeddu cael eu gweld a’u deall.

“Dwi’n gwerthfawrogi ei fod o’n cael ei dderbyn fel ‘peth go iawn’ o’r diwedd ond tro cymdeithas yw hi rŵan i wneud bywyd yn haws i ni,” meddai Non.

“Ro’n i mor falch o gael y cyfle i helpu rhoi’r llyfr yma at ei gilydd, nid yn unig i ddilysu profiad cymaint o bobol niwrowahanol ond i roi mewnwelediad i bobol niwronodweddiadol o ran sut mae bywyd yn teimlo i bobol ar y sbectrwm a’u teuluoedd.”

Yn wreiddiol o Glwyd, mae Non erbyn hyn wedi ymgartrefu yn Aberteifi.

Mae hi’n fam i dri, yn un rhan o dair o’r grŵp pop Eden, yn sgriptwraig, ac yn ddiweddar wedi derbyn MA mewn Arfer Seicotherapiwtig. Enillodd ei hunangofiant, Paid â Bod Ofn, y categori ffeithiol yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn yn 2022. Mae Non hefyd yn falch iawn o fod yn llysgennad i meddwl.org.

“Dylai unrhyw un ddarllen y llyfr yma achos byddwch chi i gyd yn nabod rhywun ar y sbectrwm, ’da ni’n bobman!” meddai Non. “Fy ngobaith yw y bydd yn gwneud i bobol ystyried sut y gallan nhw wneud y byd yn lle mwy cyfforddus, yn hytrach nag ein bod ni’n gorfod esbonio neu ofyn dro ar ôl tro oherwydd mae hynna’n ychwanegu at ein cywilydd – cywilydd sydd mor ddiangen ac annheg.

“Roedd gweld fy mhrofiad fy hun mewn du a gwyn mewn straeon pobol eraill yn brofiad mor ddilys.”

Mae’r gyfrol Dynol Iawn yn £9.99 ac ar gael yn eich siop lyfrau leol ac ar www.ylolfa.com nawr