MAE Gwasg Carreg Gwalch wedi lansio cyfres newydd – Arwyr Argyfwng.

Moli yw pennaeth y Llygod Argyfwng, ac mae hi a’i chriw ffrindiau yn barod i ymateb i unrhyw ddigwyddiad. Mae ganddynt i gyd nodweddion arbennig a thalent unigryw sy’n eu gwneud yn griw arbennig.

Arwyr Argyfwng a’r Bad Achub yw’r stori gyntaf yn y gyfres arbennig yma am y llygod sy’n ffurfio’r criw.

Dewch i adnabod y ffrindiau bach hoffus yn well wrth ddarllen eu hanes ar lan y môr ar ddiwrnod braf yn cael hwyl.

Wrth i bawb fwynhau a bwyta hufen iâ, daw galwad sydyn bod Pws Pen Bach mewn trafferthion ar y môr. Mae’n rhaid i Moli alw’r criw ynghyd i fynd i achub y dydd. Morus yw llygoden y Bad Achub a chawn ei weld yn arwain yr ymgyrch i achub Pws.

Meddai Owain Williams, cocsyn Bad Achub Porthdinllaen am y llyfr: “Stori liwgar a hwyliog sy’n rhannu neges bwysig am ddiogelwch ar y môr, a phwysigrwydd gwisgo siaced achub. Gwers bwysig i unrhyw un sy’n ymweld lân y môr. Gwrandewch ar yr Arwyr Argyfwng.”

Mae Arwyr Argyfwng a’r Bad Achub ar ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com