MAE Eluned Morgan wedi rhoi ei sêl ar ei deddf gyntaf fel Prif Weinidog Cymru heddiw.
Mae'r gyfraith newydd gan y Senedd yn helpu i foderneiddio'r weinyddiaeth etholiadol ac yn cael gwared ar rwystrau i ymgysylltu democrataidd.
Cyflwynwyd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i'r Senedd am y tro cyntaf ym mis Hydref 2023 ac fe'i pasiwyd gan Senedd Cymru ym mis Gorffennaf eleni.
Mae'r gyfraith yn golygu mai dinasyddion Cymru fydd y rhai cyntaf o'r Deyrnas Unedig i gael eu cofrestru'n awtomatig ar y gofrestr bleidleisio, gan ddilyn gwledydd fel Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal.
Amcangyfrifir y gallai hyd at 400,000 o bobl nad ydynt eisoes wedi cofrestru i bleidleisio gael eu hychwanegu at y gofrestr.
Ochr yn ochr â chofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru, bydd y ddeddf newydd yn sefydlu corff newydd i Gymru gyfan sy'n gyfrifol am gydgysylltu'r gwaith o weinyddu etholiadau Cymru yn effeithiol, creu llwyfan gwybodaeth newydd i bleidleiswyr ar-lein ac yn cyflwyno mesurau i gynyddu amrywiaeth yn aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol.
Meddai’r prif weinidog: “Dylai pob person sy'n byw yng Nghymru gael y cyfle i fwrw eu pleidlais mewn etholiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu bywydau.
“Er bod gan bawb yr hawl i benderfynu a ydyn nhw'n pleidleisio, bydd cofrestru awtomatig yn helpu i chwalu'r rhwystrau posibl rhag pleidleisio.
“Mae cyflwyno'r gyfraith hon yn gam enfawr ymlaen i wneud system o weinyddiaeth etholiadol yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.”