LANSIWYD llyfr celf heb ei debyg ym Mhafiliwn Castell Aberteifi neithiwr sef Patagonia: Taith mewn Paent.
Mae’r llyfr yn ferw o baentiadau gwefreiddiol, gan un o arlunwyr mwyaf dawnus Cymru – Meirion Jones, ac hanesion byw sy’n rhoi cyd-destun a goleuni unigryw i bob un.
Dyma gasgliad sy’n rhoi Patagonia a’i phobl, a’i threftadaeth, ar gof a chadw; casgliad hanesyddol bwysig ac anrheg perffaith ar gyfer y Nadolig.
Meddai’r actor Matthew Rhys, sydd wedi dogfennu peth o’i brofiad ei hun yn y llyfr hwn, o dreulio mis cyfan ym Mhatagonia yn crwydro 400 milltir ar gefn ceffyl ar draws y paith: “Dawn brin yw dawn artist i ddal a chyfleu naws lle, yn ogystal â’i bobl.
“Yn sgil ei allu unigryw, mae Meirion Jones yn llwyddo i wneud hyn mewn modd sy’n ymddangos mor ddiymdrech.”
Cefndir y gyfrol
Ar yr 28ain o Fai 1865, hwyliodd criw o dros 150 o gyd-Gymry – ar fwrdd llong o’r enw’r Mimosa – o ddociau Lerpwl i beithdiroedd Patagonia… 7,700 milltir o daith.
Roedden nhw ar drywydd bywyd gwell a chyfleoedd i gael siarad eu mamiaith ac i gynnal eu diwylliant yn ddi-rwystr. Wedi bron i ddeufis dyrys ar y môr, daeth creigiau gwynion Porth Madryn i’r golwg o’r diwedd.
Aeth sawl mintai o Gymru i’r Wladfa i ddathlu 150 mlwyddiant y fordaith eiconig honno, ac i gyfarfod rhai o’i disgynyddion – sy’n byw yno hyd heddiw.
Roedd yr artist Meirion Jones ymhlith y minteioedd hynny, ar gais a gwahoddiad ffrindiau iddo o Batagonia – Isaías ac Eluned Grandis.
Yn ystod ei daith, fe ymwelodd Meirion â rhai o’r cymeriadau, y tirweddau a’r anheddau sy’n ymgorffori dyhead y ‘Cymry cyntaf’.
Yn rhinwedd ei ddawn ddihafal fel arlunydd, mae wedi llwyddo i’w hanfarwoli, wedi “rhewi’r hanes” – ac yn ei gyflwyno ichi rhwng y cloriau hyn. Gwledd i’r llygaid ac i’r enaid.
Lansiad
Cafwyd adloniant gan y gitarydd Rhisiart Arwel yn y lansiad yn chwarae caneuon Archentaidd-Gymreig eu naws.
Cafwyd darlleniadau – o lygad y ffynnon – gan rai o gyfranwyr y gyfrol, a’r rhai sydd wedi’u portreadu yn y darluniau, gan gynnwys y fonesig o Blas y Graig, Luned Gonzalez.
Patagonia: Taith mewn Paent, Meirion Jones, Golygydd Cedron Sion, Y Lolfa, £40.