CYNHALIWYD Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy, Llanrwst 202 ar Fehefin 22ain yn y Ganolfan a chafwyd dau gyfarfod llwyddiannus gyda theilyngdod ym mhob seremoni a chystadlu brwd.

Enillydd y Gadair oedd Gaeynor Mai Jones o Bentre’r Eglwys, Rhondda Cynon Taf.

Daw Gaeynor o Aberystwyth yn wreiddiol a dyma’r ail dro iddi gipio Cadair Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy.

Megan Williams o Eglwysbach enilliodd Tlws yr Ifanc ac Anna Glyn o Bandy Tudur enilliodd Dlws y Cerddor.

Roedd Canna Roberts, o Borthmadog , yn drydydd yn Ysgoloriaeth Colin Jones
Roedd Canna Roberts, o Borthmadog , yn drydydd yn Ysgoloriaeth Colin Jones (Supplied)

Enillydd Ysgoloriaeth Colin Jones oedd Rhian-Carys Jones o’r Fflint a hithau hefyd enilliodd yr Her Unawd.

Meilir Tudur Davies o Gaernarfon oedd enillydd Tlws Coffa Maureen Hughes. Rhoddedig gan Ferched y Wawr, Aberconwy.

Enillydd Ysgoloriaeth Colin Jones – Unawd 16 – 30 oedd Rhian-Carys Jones o’r Fflint, gyda Leisa Mair Lloyd-Edwards o’r Groeslon yn ail a Canna Roberts, o Borthmadog yn drydydd.

Rhian-Carys Jones enilliodd yr Her Unawd hefyd gyda Heidi Mason, Penmachno yn ail a Trefor Williams, Bodffordd yn drydydd

Ar yr Her Unawd Gymraeg daeth Mostyn Jones, Llanrwst yn gyntaf, Emyr Wyn Jones, Gwalchmai yn ail a Rhys Roberts o Bwllheli yn drydydd.