CWPL o Sir Benfro sydd wedi ennill cystadleuaeth Priodas Pymtheg Mil ar ôl i S4C gyhoeddi fod canllawiau pleidleisio’r gystadleuaeth wedi cael eu “torri’n ddamweiniol”.

Daeth y cyhoeddiad nos Fawrth mai Aled Johnson a Malin Gustavsson o Foncath oedd yn fuddugol er nad oedd y dyddiad cau ar gyfer y bleidlais gyhoeddus tan ddydd Gwener.

O ganlyniad bydd Aled a Malin yn cael gwireddu eu priodas berffaith o flaen y camerâu mewn rhaglen arbennig i’w darlledu dros gyfnod y Nadolig.

Cyhoeddodd S4C ar eu cyfrif Facebook nos Fawrth nad oedd Teresa a Rutger, sy’n rhedeg tafarn yn Llanrug, bellach yn gymwys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.

“Yn anffodus rydym wedi gorfod ffarwelio â Teresa a Rutger o gystadleuaeth Priodas Pymtheg Mil.

“Yn ddamweiniol fe dorrwyd y canllawiau sy'n ymwneud ag annog pobl i bleidleisio.

“Mae hyn yn golygu bod y bleidlais wedi ei chyfaddawdu

“Er tegwch i'r cwpwl arall sy'n rhan o'r gystadleuaeth, ac er mwyn cynnal ymddiriedaeth ein gwylwyr yn S4C, rydym wedi gorfod cymryd y penderfyniad anodd i ddod â'r gystadleuaeth i ben.

“Rydym yn dymuno pob hwyl ac hapusrwydd i Teresa a Rutger ac rydym yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw yn sgil y penderfyniad.

“Edrychwn ymlaen i helpu gwireddu dymuniadau priodas y pâr llwyddiannus, Aled a Malin, yn ddiweddarach eleni.”

Meddai Aled cyn y datganiad: “Wnaethom ni ddyweddïo yn Awst 2015.

“Y rheswm fwyaf pam dyn ni heb wneud e [priodi] yw rheswm ariannol, yn enwedig gyda teulu Malin yn dod o Sweden, er mwyn iddyn nhw bod yn rhan o’r achlysur boed hynny yn Sweden neu yng Nghymru.”

Dros y blynyddoedd mae cyfres Priodas Pum Mil wedi trefnu 47 o briodasau am £5,000, gyda chymorth teulu a ffrindiau.