Mae S4C a chonsortiwm ymchwil a datblygu Media Cymru wedi cyhoeddi enwau naw cwmni cynhyrchu fydd yn derbyn hyd at £10,000 o gyllid datblygu fel rhan o gynllun fformatau byd-eang uchelgeisiol.

Bydd y cwmnïau llwyddiannus yn derbyn cyllid a chymorth arbenigol i ddatblygu syniadau fformat dros y tri mis nesaf, gydag S4C yn edrych i dreialu o leiaf un o'r syniadau llwyddiannus.

Y cwmnïau llwyddiannus yw: Wildflame Productions, Rondo Media, Chwarel Cyfyngedig, Little Bird Films, Orchard Media and Events Group, Cardiff Productions, Tomos TV, Ty’r Draig a Boom.

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn dau weithdy hyfforddi a luniwyd gan bartneriaid ym Mhrifysgol De Cymru i roi gwybodaeth gyfredol y farchnad a chyngor ar ddatblygu fformat i’r ymgeiswyr.

Cafodd y gwersylloedd, a redwyd gan Grand Scheme Media, fewnbwn gan arbenigwyr fformat fel cyn-gyfarwyddwr adloniant rhyngwladol yn Fremantle Rob Clark, Clare Thompson o K7 Media, a chyn-bennaeth adloniant comedi UKTV Iain Coyle.

Cyflwynwyd data ar gynulleidfaoedd i gynhyrchwyr a chafwyd mewnwelediadau comisiynu gan Bennaeth Di-Sgript S4C, Iwan England, a phennaeth Cronfa Cynnwys Masnachol S4C, Claire Urquhart.

Dywedodd Iwan England Pennaeth Di-Sgript S4C: "Mae gan S4C hanes o gomisiynu fformatau llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae sawl fformat wedi cael eu gwerthu i ddarlledwyr a thiriogaethau eraill, ac rydym am adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.

"Nod y cynllun yw darganfod syniadau sy'n gweithio i gynulleidfaoedd S4C, ond hefyd yr gweithio i farchnad fformatau byd-eang, tra hefyd yn canolbwyntio ar nod Media Cymru o arloesi trwy ymchwil a datblygu.

"Mae wedi bod yn brofiad creadigol a chydweithredol, ac alla i ddim aros i weld y syniadau ar ôl iddyn nhw gael eu datblygu'n llawn."

Dywedodd Sara Pepper Cyd-Gyfarwyddwr Media Cymru:

“Roedd hon yn broses gystadleuol yn dilyn dau weithdy hyfforddi dwys a ariannwyd gan Media Cymru ac a ddarparwyd mewn partneriaeth â Grand Scheme Media ac S4C. 

“Roedd y gwersylloedd hyfforddi yn gyfle unigryw i fusnesau creadigol yng Nghymru i ddysgu mwy am greu, ariannu, pecynnu a gwerthu fformatau byd-eang a fydd yn apelio at wylwyr teledu led led y byd.

“Diolch i Media Cymru, bydd y cwmnïau llwyddiannus nawr yn derbyn cyllid a chefnogaeth arbenigol gan Media Cymru, ac yn derbyn arweiniad gan Grand Scheme Media ac S4C wrth  ddatblygu eu syniadau.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld beth ddaw nesaf i’r naw cwmni creadigol llwyddiannus a chlywed y syniadau a’r rhaglenni newydd cyffrous sy’n deillio o’r cyfle hwn.”

 Ychwanegodd Iwan England: "Mae'r diwydiant teledu yn profi newid mawr ar hyn o bryd ac rwy'n credu bod y cyfuniad hwn o hyfforddiant, rhannu gwybodaeth, buddsoddiad a chefnogaeth barhaus yn ymateb gwych ac yn ffordd o bontio'r lleol a'r byd-eang."