MAE S4C wedi cyhoeddi fod Geraint Evans wedi ei benodi yn brif weithredwr S4C.
Mae Geraint yn brif swyddog cynnwys dros dro S4C, ac yn arwain y tîm comisiynu.
Wedi’i fagu yn Nhrawsfynydd, Llanbrynmair a Phontarddulais, mae Geraint yn byw yn Idole ar gyrion Caerfyrddin.
Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth cyn cwblhau diploma ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd.
Meddai: “Mae wir yn fraint i gael y cyfle i arwain sianel yr wyf wedi gwylio a chynhyrchu cynnwys iddi ar hyd fy ngyrfa.
“Mae gan S4C rôl allweddol i’w chwarae i alluogi pobl i fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg, i ddenu siaradwyr newydd ac i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol.
“Wrth i’n harferion gwylio newid, mae’n hanfodol bod S4C yn newid - ac yn denu, yn ysbrydoli ac yn diddanu ein cynulleidfaoedd, ar ba bynnag blatfform maen nhw’n dewis gwylio.
“Rwy’n edrych mlaen at yr her, gan wybod bod timau talentog a chreadigol yma’n S4C, yn y sector gynhyrchu ac ymhlith ein rhanddeiliaid allanol, sy’n rhannu’r un angerdd a gweledigaeth o gael sianel sy’n gwasanaethu Cymru gyfan.“
Fe ymunodd geraint â S4C yn 2019 fel comisiynydd newyddion a materion cyfoes.
Bu’n gyfrifol am ddatblygu gwasanaeth newyddion digidol S4C, cyn dod yn gyfarwyddwr strategaeth cynnwys a chyhoeddi.
Cyn ymuno â'r sianel bu'n newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd, yn ohebydd ar gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, yna'n olygydd y gyfres ac yn bennaeth rhaglenni Cymraeg ITV.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu Geraint hefyd yn gyd brif weithredwr dros dro S4C am gyfnod o chwe mis.
Meddai Guto Bebb, cadeirydd dros dro S4C: “Mae Geraint yn angerddol dros gynhyrchu cynnwys Cymraeg a’r angen i feithrin y sector greadigol sy’n bartner allweddol i S4C.
“Daw â chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth am y diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt i’w swydd newydd.
“Fel y cyfarwyddwr sydd wedi bod yn arwain ar ddatblygiad digidol y sianel, mae ganddo weledigaeth glir o’r llwybr sydd angen i S4C i’w gymryd os am sicrhau dyfodol llewyrchus.
“Mae’n arweinydd naturiol all uno staff a rhanddeiliaid wrth i’r sianel gychwyn pennod newydd.
“Wedi proses apwyntio allanol drylwyr, a oedd yn cynnwys ymgynghori gyda’r tîm rheoli, staff, a’r undeb Bectu roedd penderfyniad y bwrdd yn unfrydol. Rydym oll yn hynod o falch o’r penodiad cyffrous hwn.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar i Sioned Wiliam am wasanaethu fel prif weithredwr dros dro yn ystod y misoedd diwethaf. Mae wedi bod yn bleser cyd-weithio gyda hi.“
Bydd Geraint Evans yn dechrau yn ei rôl fel prif weithredwr yn Ionawr 2025. Bydd Sioned Wiliam yn parhau fel prif weithredwr dros dro tan hynny.