ELENI, darlledwyd pedwaredd cyfres y gêm gwis unigryw a phoblogaidd Chwalu Pen ar BBC Radio Cymru.

Dros y bedair blynedd ddiwethaf, mae amryw o wrandawyr pybyr, ledled Cymru a thu hwnt, yn siŵr o fod wedi rhoi ryw ymgais bersonol ar ambell rownd – gan geisio sgubo drwy weoedd pry cop y co’ i ddod o hyd i’r atebion.

Wel, y gaeaf hwn, mae casgliad helaeth o gwestiynau mwyaf heriol y gyfres (dros 1,000 ohonynt!) yn cael ei gyhoeddi ar ffurf llyfr.

Dywed Llŷr Huws, cynhyrchydd a chreawdwr y gyfres: “Dwi wedi gweld degau o unigolion yn chwysu ac yn drysu wrth recordio’r gyfres dros y blynyddoedd diweddar, ond mae rhoi’r cwis at ei gilydd yn gallu bod hyd yn oed yn fwy o destun ‘chwalu pen!’

“Mae’n gwis chwithig sy’n gofyn am ateb yn gynta’ fel rheol, cyn ffurfio cwestiynau ar rowndiau hollol random.

“Ac mae Mari yn gneud joban wych o ddisgrifio stumiau’r gwesteion, ar gyfer y gwrandawyr, wrth iddyn nhw glywed eu bod nhw am orfod ateb cwestiynau ar ‘Siarcod a Morfilod’ neu ‘Rip-offs Teledu Cymru’.

“Mae dyddiau recordio yn bleser ac yn llawn hwyl (ac weithiau’n gallu troi yn draed moch!) efo criw o gapteiniaid ffraeth, a gobeithio fod hynny’n adlewyrchu yn y penodau.

“Dwi’n ddiolchgar am y rhyddid rydan ni wedi ’i gael gan Radio Cymru i greu rhywbeth sy’n teimlo’n wahanol i gynhyrchiad arferol.

“Mae’r cwis yn heriol – fel y gwelwch chi yn y llyfr – ond mae gwybodaeth gyffredinol yn aml yn dod yn ail i chwerthin. Mae’n rheswm i fod yn wirion.

“Ac os digwydd i rywun feddwl mai ‘Emlyn’ ydi’r ‘Math o farddoniaeth – yn cychwyn efo ‘E’ – y basa chi’n ei weld ar garreg fedd’... disgwyliwch dynnu coes.

“Ar lefel bersonol, hefyd, dwi’n falch o fod wedi cael recordio penodau unigryw efo arwyr anfarwol fel Dyfrig Evans a Dewi Pws.

“Mi oedd gweld Dyfs yn droednoeth yn y stiwdio – ac yn cochi wrth glywed model boblogaidd yn sôn am ddynion yn prynu sanau – yn atgof i’w drysori.”

Yn frith o wybodaeth a ffeithiau difyr, dyma lyfr sy’n destun crafu a chwalu sawl pen!

Mae’r rowndiau’n ferw o gwestiynau’n ymwneud â llu o wahanol feysydd a genres – o ddiwylliant Cymru i anifeiliaid enwog.

Yn y gyfrol hwyliog, fywiog hon, mae ’na rywbeth at ddant a chwaeth pawb – yr ifanc a’r hŷn fel ei gilydd.

Meddai’r cwisfeistr Mari Lovgreen: “Os am ychwanegu at strès a chwys diwrnod ’Dolig neu am rywbeth bach i basio’r amser ar b’nawn dydd Mawrth diflas – hwn ydi’r llyfr i chi!”