BYDD S4C yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni gyda diwrnod cyfan o gynnwys arbennig sy’n talu teyrnged i’n gwlad a’n diwylliant.
O gyffro cystadleuaeth Cân i Gymru, rhythmau cynghanedd gyda Gwlad Bardd a thaith drwy hanes y genedl trwy 24 Awr Newidiodd Gymru - bydd rhywbeth i bawb deimlo’n angerddol dros ein gwlad.
Mae modd dathlu ac ymfalchio drwy wylio pa bynnag ffordd, a phryd bynnag sy’n siwtio - boed ar y sgrin fach neu fawr, ar wefan S4C Clic neu BBC iPlayer.

Gwlad beirdd
Yn y ffilm ddogfen Gwlad Bardd ar 1 Mawrth am 8.30yh, bydd y Prifardd Rhys Iorwerth yn ein tywys ar daith o gwmpas Cymru a thu hwnt i ddathlu’n sîn barddol. Bydd cyfweliadau â rhai o feridd amlycaf Cymru, a chyfle i glywed cerddi newydd sbon.
.png?width=752&height=500&crop=752:500)
Cantorion
Yn ein harwain at Ddydd Gŵyl Dewi fydd cystadleuaeth eiconig Cân i Gymru ar nos Wener 28 Chwefror am 8.00yh. Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn dod â holl gyffro’r gystadleuaeth yn fyw o Dragon Studios, Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd 8 cân yn cystadlu am deitl a thlws Cân i Gymru, £5,000 a chytundeb perfformio. Y gwylwyr fydd yn gyfrifol am ddewis yr enillydd drwy bleidleisio ar-lein am ddim a bydd modd ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #CiG2025.

Enwogion o fri
Yr anturiaethwr Richard Parks fydd yn cymryd cipolwg ar dyddiau allweddol yn hanes Cymru yn y gyfres 24 Awr Newidiodd Gymru ar 4 Mawrth. O farwolaeth Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a gwrthryfel Owain Glyndŵr hyd at hanes Shirley Bassey a Chymru’n mynd i frig y siartiau am y tro cyntaf, cawn ddysgu am ddigwyddiadau pwysig ein hanes. Gallwch wylio rhaglen gyntaf y gyfres am 9.00yh, neu fwynhau’r cwbl mewn tameidiau pum munud drwy gyfres o 25 ffilm fer ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Cawn gyfle i weld sut mae trigolion Caerdydd yn dathlu Nawddsant Cymru mewn rhifyn arbennig Dydd Gŵyl Dewi o Dechrau Canu Dechrau Canmol ar 2 Mawrth am 6.45yh, a daw’r canu mawl o Eglwys Gatholig San Pedr, Caerdydd.

Gwlad! Gwlad!
Yn Cartrefi Cymru ar 5 Mawrth am 8.25yh, bydd Aled Samuel a’r hanesydd adeiladau, Bethan Scorey yn cael cipolwg tu ôl i ddrysau rhai o gartrefi Cymru – o dŷ sy’n gwneud y mwyaf o’r golygfeydd panoramig yn Ne Cymru i fflat mewn pentref cynaladwy yng Nghaerdydd.
A bydd holl ffans Cwis Bob Dydd, app cwis dyddiol S4C, yn falch o glywed ei fod yn dychwelyd am dymor arall ar 1 Mawrth. Y brif wobr y tro hwn fydd arhosiad arbennig yn un o westai Cwmni Celtic Collection. Ond bydd mwy o wobrau ar gael drwy’r 5 tymor fydd i ddilyn yn ystod y flwyddyn. Unwaith eto, y nod yw ateb y cwestiynau i gyd yn gywir, mor gyflym â phosib, er mwyn cyrraedd brig y sgorfwrdd.