AR ôl wythnosau o glyweliadau cudd ysbrydoledig ac ail-alwadau (call backs), mae chwe chanwr talentog wedi ennill eu lle yn rownd gyn-derfynol Y Llais, fersiwn Gymraeg o’r fformat byd-enwog The Voice.

Ar nos Sul, 9 Mawrth, dewisodd yr Hyfforddwyr Yws Gwynedd ac Aleighcia Scott dri artist yr un i barhau yn eu timau ar gyfer cam nesaf y gystadleuaeth.

Yn eu helpu i wneud y penderfyniad pwysig yma, ymunodd Hyfforddwyr Gwadd arbennig â nhw: y gantores a’r gyfansoddwraig boblogaidd Alys Williams, fu’n gweithio gyda Thîm Yws, a’r tenor sydd wedi ennill sawl gwobr, Trystan Llŷr Griffiths, gyda Thîm Aleighcia.

Mae Alys yn deall yn union y pwysau a’r cyffro mae’r unigolion hyn yn eu teimlo, ar ôl cystadlu ei hun ar The Voice yn ôl yn 2013 a chyrraedd y rowndiau go-gynderfynol.

Dywedodd Alys: “Mae ‘na gymaint o dalent allan yna ac roedd hi’n brofiad mor braf i gael cefnogi’r talentau ar ran o’u taith fel cantorion, a sgwrsio efo nhw am eu teimladau a’u gobeithion nhw ar gyfer y cam nesaf.”

“I fi, cryfder y gyfres ydi rhoi llwyfan i gymaint o dalent ffres dan ni erioed wedi eu clywed o’r blaen, a pobol sydd ella ddim yn rhan o’r sîn gerddorol Gymraeg.

“Mae Yws wedi bod mor gefnogol ohona i dros y blynyddoedd a dwi’n gwbod y bydd o’n gefnogol o’r bobol sydd ar ei dîm.”

Yn ymuno â Thîm Yws, mae Bethany Powell o’r Rhondda, Anna Arrieta o Borthcawl a Stephen Hallwood o Arberth yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Dywedodd Bethany: “Mae profiad Y Llais wedi gwneud llwyth i fy hyder, y cadeiriau oedd y frwydr i fi achos os oedd un cadair yn troi gyda enw mawr ynddi, oedd e’n dangos bod nhw yn credu ynddo i, a wedyn dylwn i gredu dipyn bach ynddo fi fy hun.

“Ond fe wnaeth y pedwar droi, so nath hwnna helpu’n fawr gyda hyder. Erbyn y call backs o’n i’n teimlo lot mwy cyfforddus yn eu gwneud nhw – roedd y pwysau wedi mynd.

“Mae’r Llais am y llais - chi’n canu yn erbyn pobl sydd yn gallu canu sydd yn rhoi’r teimlad o self worth.”

Ac yn ymuno â Thîm Aleighcia ar gyfer y rownd gyn-derfynol mae Rose Datta o Gaerdydd, Lauren Fisher o Lanelli ac SJ Hill ac Endaf Roberts o Gaerdydd.

Dywedodd SJ, sydd wedi ei ysbrydoli i barhau i ddysgu Cymraeg ers cystadlu ar Y Llais: “Mae dysgu’r caneuon yn Gymraeg wedi bod yn sialens enfawr, ac wedyn trio dysgu’r iaith hefyd, ond dwi wedi caru pob munud ohono fe, dwi wedi ei gofleidio, ac wedi mynd mewn heb unrhyw ddisgwyliadau.

“Dwi’n gobeithio bydd gweld fi ar y llwyfan yna’n ysbrydoli mwy o bobl i’w wneud, ac hefyd gyda Aleighcia’n dysgu Cymraeg, dwi’n credu bod hynny’n ysbrydoliaeth i bobl.”

Bydd y chwech hyn yn symud ymlaen i gam nesaf y gystadleuaeth, ble byddant yn parhau i frwydro am le yn y rownd derfynol.

Mae’r bennod ble cafodd y chwech cyntaf yma eu dewis ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Ond mae’r daith ymhell â bod drosodd. Bydd yr ail griw sydd yn mynd ymlaen i’r rownd gyn-derfynol yn cael eu datgelu nos Sul yma, 16 Mawrth am 19:30, pan fydd yr Hyfforddwyr Syr Bryn Terfel a Bronwen Lewis, gyda chymorth dau Hyfforddwr Gwadd arbennig arall, yn dewis tri artist yr un i ymuno â’u timoedd.

Dilynwch Y Llais ar y cyfryngau cymdeithasol i gael yr holl newyddion diweddaraf @YLlais.