MAE gŵr a ddaeth ar draws Cadair Eisteddfod Genedlaethol yng Ngweriniaeth Iwerddon yn galw am gymorth i ddargnafod sut iddi orffen i fyny mewn ysgubor yn swydd Corc.

Ar ôl symud o Gaerdydd i’r Iwerddon, roedd Henry Enos yn pori dros safleoedd cymdeithasol yn chwilio am ddodrefn gardd ac fe ddaeth o hyd i rhywun yn gwerthu be a ddisgrifwyd fel ‘hen gadair’.

Cysylltodd Henry â’r Cambrian News yr wythnos ddiwethaf i ddweud ei fod wedi’i synnu ar ôl gweld y gadair gyda’r arysgrif ‘Eisteddfod Talgarreg 1910’, mewn ysgubor yng nghefn gwlad Corc.

Meddai: “Rwy’n ceisio darganfod ei hanes. Pwy oedd perchennog y gadair ac am ba waith y cafodd ei hennill?

Y gadair yn nhŷ Henry
Y gadair yn nhŷ Henry (Supplied)

“Rwyf wedi e-bostio nifer o lefydd heb unrhyw lwc. A fyddai eich papur chi yn gallu helpu gyda’r dirgelwch?”

Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach hysbysodd Henry y Cambrian News fod Amgueddfa Hanes Sain Ffagan wedi ymateb i’w apêl a dategelu fod yr eisteddfod wedi cael ei chynnal ar 16 Tachwedd, 1910.

Cofeb i David Thomas Y.H., Pantcoch Villa, Talgarreg oedd testun cystadleuaeth y gadair.

Yr oedd chwe chystadleuydd a dyfarnwyd y Gadair i’r Parchedig John Davies, curad Eglwys y Plwyf yn y Rhyl, dan y ffugenw ‘Heber’.

Nid oedd y parchedig yn bresennol yn yr Eisteddfod ac felly cadeiriwyd Mr Rees Davies, C.M., Talgarreg, yn ei le.

Mae Henry yn awyddus i ddarganfod sut y daeth y gadair i Corc.

Ychwanegodd: “Rwy’n gobeithio y bydd teulu’r enillydd yn gallu helpu.

“Mae’n ymddangos mai Llandre neu Dalgarreg yw’r prif ffocws.

“Testun y gerdd oedd cofeb i Ynad Heddwch lleol a oedd hefyd yn ddilledydd o Aberaeron.”

Oes rhywunyn gallu datrys y dirgelwch? Cysylltwch â [email protected]