BYDD Cymdeithas Ceredigion yn croesawu tri phrif enillydd adran lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 i gyfarfod cyntaf y tymor y Gymdeithas.

Yn dilyn yr arferiad sydd wedi’i hen sefydlu ceir trafodaeth ddifyr a dathliad o Gyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Brifwyl ar nos Sadwrn, 7 Medi yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes.

Ac mae Carwyn Eckley a Gwynfor Dafydd, enillwyr y Gadair a’r Goron, ac Eurgain Haf, enillydd Y  Fedal Ryddiaith, wedi derbyn y gwahoddiad i ymuno â’r cyfarfod.

Caiff y noson ei lywio gan y Prifardd Tudur Dylan Jones.

Gwynfor Dafydd enillodd y Goron
Gwynfor Dafydd enillodd y Goron (Eisteddfod Genedlaethol)

“Mae trafod Cyfansoddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad angenrheidiol a phoblogaidd yng nghalendr y Gymdeithas,” meddai Barbara Roberts, Llywydd Cymdeithas Ceredigion.

“Dyna sy’n rhoi cychwyn bywiog i raglen weithgareddau’r flwyddyn sydd i ddod.

“Ynghyd â dathlu llwyddiant y llenorion buddugol mae’r achlysur yn denu cynulleidfa luosog, o bell ac agos, ac mae’n dipyn o sgŵp cael Prifeirdd a Phrif Lenor 2024 yn bresennol.”

Mae modd olrhain y mcyfarfodydd cyntaf i’r trafodaethau a gafwyd ar aelwyd fferm y Cilie, ger Llangrannog.

Enillydd y Fedal Ryddiaith, Eurgain Haf
Enillydd y Fedal Ryddiaith, Eurgain Haf (Eisteddfod Genedlaethol)

Yn y 1960au symudodd y digwyddiad i Neuadd Pontgarreg cyn dod yn y pendraw dan adain y Gymdeithas a sefydlwyd ym 1966 i drafod llenyddiaeth.

Erbyn hyn, bob mis rhwng Medi a Mehefin, mae’r Gymdeithas yn cynnal ystod amrywiol o weithgareddau yn tynnu sylw at waith ein hawduron, ein haneswyr, ein cerddorion a’n hartistiaid.

Ymhlith digwyddiadau uchelgeisiol 2024-25 mae sesiynau yng nghwmni’r bardd Jo Heyde, y garddwr a’r ecolegydd Carwyn Graves, a’r awdur nofelau ditectif Alis Hawkins.

Yn ogystal, trefnir gwasanaeth Plygain, Eisteddfod a Thaith Lenyddol.

Mae croeso cynnes i bawb ymuno â’r cyfarfod ond er mwyn diogelu’r amgylchedd a sicrhau lle i barcio anogir pobl i rannu ceir os yn bosibl.

Trafod Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2014, 7.00pm, nos Sadwrn, 7 Medi 2024, Caffi Emlyn, Tan-y-groes.