CYNHALIWYD digwyddiad cwbwl unigryw ar fferm Tanygraig, Llanfarian, prynhawn dydd Sul, 18 Awst, a oedd yn rhoi blas ar hanes a thraddodiadau Cymru.

Roedd yr actor Dion Davies yno yn portreadu rhai o gymeriadau gorllewin Cymru, ynghŷd â Meleri Garnfach yn canu rhai o ganeuon poblogaidd Cymreig.

Roedd cyfle i’r gynulleidfa i ymuno i mewn yn y canu a chael hwyl, cyn symud ymlaen i ddawnsio yng nghwmni Parti Dawns Gwerin Aelwyd Aberystwyth a oedd yn gwisgo eu gwisgoedd traddodiadol a chael blas o dwmpath dawns gyda Twmpath Aberystwyth.

Enillodd yr actor o Landeilo Dion Davies wobr o £55,086 ar ôl dod o hyd i docyn EuroMillions buddugol a adawodd yn ei gar chwe wythnos ynghynt tra’n perfformio mewn pantomeim y flwyddun ddiwethaf.

Fe brynodd Dion, 47, y tocyn ychydig cyn y Nadolig pan oedd yn chwarae rhan y Fonesig mewn cynhyrchiad o Sleeping Beauty yn Aberdaugleddau. Ni ddaeth o hyd iddo eto tan 2 Chwefror 2023.

Meddai ar y pryd: “Roedd angen i mi lanhau fy nghar y tu mewn a'r tu allan. Roedd mewn cyflwr ofnadwy ar ôl llawer o deithiau, felly fe es i ag ef at lanhawr proffesiynol. Gofynnodd y boi i mi dynnu fy eiddo i gyd allan cyn iddo ddechrau rhag ofn iddo daflu rhywbeth gwerthfawr i ffwrdd! Rydw i mor falch iddo wneud hynny.”

Yn ogystal â gwledd o adloniant ar fferm Tanygraig, roedd gwledd o fwyd hefyd wedi cael ei baratoi gan gwmni lleol Halen a Pupur, a phice ar y maen gan Cacennau Mirain Haf.

Roedd digon o bethau yno hefyd i ddiddanu’r plant, gan gynnwys castell neidio a gemau amrywiol.

Cynhaliwyd y digwyddiad drwy gefnogaeth Cronfa Her Fach, ARFOR, sydd wedi ei sefydlu i dreialu atebion newydd ac arloesol i heriau sy’n bodoli yn ardal ARFOR, sy’n cwmpasu Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr.

Mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Meddaai Dyfrig Williams o Danygraig: “Roedd y digwyddiad ‘Blas ar Gymru’ wedi cael ei anelu at bawb, o dwristiaid sy’n ymweld â’r ardal i bobl lleol, er mwyn codi ymwybyddiaeth o hanes a thraddodiadau Cymru a’r iaith Gymraeg.

“Roedd hi’n braf i weld pawb yn ymuno mewn yn yr hwyl.”

“Prynhawn bendigedig” oedd sylwadau un o’r mynychwyr ar y taflenni adborth ar ddiwedd y dydd, “lot o hwyl, digon o gerddoriaeth, bwyd da a lleoliad arbennig”.

Ac ychwanegodd un arall, “ I understand a little bit more Welsh after today”.

Ac os ydych chi’n poeni eich bod wedi methu’r digwyddiad, wel mae cyfle i chi i fynychu digwyddiad arall tebyg ar nos Fercher, 28 Awst o 6yh i 8yh.

Mynnwch eich tocyn am ddim drwy wefan Tanygraig (www.tanygraig.uk) a chliciwch ar y linc ‘Blas ar Gymru’.