WEDI’I sefydlu yn Nhalybont, Ceredigion ers bron i chwe deg mlynedd, mae gwasg Y Lolfa erbyn hyn wedi agor ail swyddfa yng Nghaernarfon.

Yn un o weisg mwyaf Cymru erbyn hyn mae’r wasg wedi agor swyddfa wedi ei leoli yn Stryd y Plas yn y dref, uwchben Palas Print a Loti & Wren.

Meddai Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi'r wasg: "Does dim tre yng Nghymru â thraddodiad cyfoethocach o gyhoeddi poblogaidd Cymraeg ac rydym yn falch o allu cyfrannu at gadw'r traddodiad yna'n fyw.

Mae’r swyddfa newydd yng nghanol Caernarfon yn rhoi canolbwynt i’n staff yn y gogledd ac hefyd yn dod â'n gwasanaeth argraffu'n agosach at ein cwsmeriaid yng Ngwynedd."

Ymhlith aelodau newydd o staff y wasg mae Teleri Jones o Amlwch, sy'n gweithredu fel Golygydd Plant a Phobl Ifanc ar ôl treulio cyfnod fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Syr Thomas Jones, ac mae Cedron Sion o Borthmadog wedi ymuno fel Golygydd Creadigol ar ôl gweithio fel cyfieithydd ac fel actor.

Bydd prif swyddfa'r cwmni yn Nhalybont yn parhau i gartrefu gweddill y golygyddion Cymraeg a Saesneg, y staff gweinyddol a'r adran argraffu. Mae'r Lolfa bellach yn cyflogi 22 yn amser llawn.

Meddai Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr Y Lolfa: "Nid yw'n gyfnod hawdd yn economaidd ar y byd cyhoeddi ond mae hyn yn dangos ein hymrwymiad hir dymor i'r gwaith o gyhoeddi ac argraffu llyfrau gwreiddiol a bywiog yn Gymraeg.

“Mae ein llwyddiant wastad wedi dibynnu ar ansawdd uchel ein staff ac mae agor ein swyddfa newydd wedi ein galluogi i ddenu staff ifanc, galluog a fydd yn parhau a chryfhau y llwyddiant yna."