Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i’r bêl-droedwraig a’r hyfforddwraig broffesiynol Jess Fishlock MBE.
Ganed Fishlock yn Llanrhymni, ac yn ddiweddar cyflawnodd y gamp o fod y pêl-droediwr cyntaf i ennill 150 o gapiau rhyngwladol i Gymru. Yr wythnos hon, gwnaeth hi hanes unwaith eto drwy dorri record sgorio goliau gorau Cymru.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros ei gwlad yn Stighag, y Swistir yn 2006 gan gyrraedd ei chanfed cap yn chwarae yn erbyn Gogledd Iwerddon yn Ystrad Mynach yn 2017, gan fynd ymlaen i ennill ei 150fed cap hanesyddol yn Podujevo, Kosovo eleni ym mis Ebrill.
Yn ystod deunaw mlynedd ei gyrfa broffesiynol, mae hi wedi chwarae i sawl tîm ledled y byd sydd wedi ennill pencampwriaethau a theitlau tymor, gan gynnwys ennill Cynghrair Pencampwyr UEFA gyda FFC Frankfurt a Lyon.
Ar hyn o bryd mae'n chwarae i glwb pêl-droed Seattle Reign yn ogystal â thîm cenedlaethol Cymru.
Fe’i henwyd yn Bêl-droediwr Cymreig y Flwyddyn bum gwaith ac fe’i hanrhydeddwyd ag MBE am wasanaethau i bêl-droed a'r gymuned LHDTh yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2018.
Cyflwynwyd Jess Fishlock yn Gymrawd er Anrhydedd gan Dr Elin Royles ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 18 Gorffennaf 2024.
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2024
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i nifer fach o unigolion nodedig er mwyn cydnabod eu cyflawniad a’u cyfraniad rhagorol.
Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2024:
- Yr Athro Syr Stewart Cole KCMG FRS, microbiolegydd o fri rhyngwladol sy'n gweithio ym maes iechyd byd-eang
- Jess Fishlock MBE, pêl-droedwraig a hyfforddwraig broffesiynol, a enillodd 150 o gapiau rhyngwladol dros Gymru
- David Hieatt, cyd-sylfaenydd cwmni jîns Hiut Denim Co o Aberteifi a The Do Lectures
- Dr Anna Persaud, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd y brand moethus gofal croen a lles, This Works
- Manon Steffan Ros, awdur arobryn, colofnydd a sgript-wraig