YMWELODD disgyblion ysgol o bob rhan o'r canolbarth â Phrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher, 6 Tachwedd, yn rhan o ddigwyddiad Sgriblwyr Cymraeg Gŵyl y Gelli 2024.
Mwynhaodd y disgyblion, rhwng 11 a 14 oed, ddiwrnod o weithdai creadigol a rhyngweithiol yn dathlu'r iaith Gymraeg gydag awduron, beirdd a pherfformwyr blaenllaw o Gymru oll dan arweiniad yr awdur, bardd a sgriptwraig, Anni Llŷn.
Cyflwynodd Siôn Tomos Owen, cyflwynydd, gwawdluniwr, awdur a darlunydd dwyieithog, weithdy yn ystyried y bydoedd y gallwn eu hadeiladu a’r straeon y gallwn eu creu ar gyfer pobl rydym yn eu gweld bob dydd.
Mae Sion yn ysgrifennu barddoniaeth, comics, llyfrau i ddysgwyr ac e-lyfrau i blant gyda Darllen Co.
Gwnaeth Leila Navabi, ysgrifennwr, cynhyrchydd a digrifwr, wahodd y disgyblion i rannu beth sy'n gwneud iddynt chwerthin a chynhaliodd weithdy yn edrych ar sut i ysgrifennu sgets o ansawdd teledu o’r dechrau i'r diwedd.
Mae hi wedi gweithio ar raglenni fel Bad Education, Nevermind the Buzzcocks ac ar ei rhaglen sitcom ei hun Vandullz.
Cynhaliodd Eurig Salisbury, darlithydd ysgrifennu creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, sesiwn ysgrifennu creadigol.
Dywedodd: “Roedd yn hyfryd annog y disgyblion i feddwl o’r newydd am y byd o’u hamgylch, gan ddysgu am grefft gwrando ac edrych ac am grefft craffu ar sain geiriau er mwyn creu lluniau mewn llinellau.
“Mae deall ble ry’n ni’n byw yn y byd yn bwysicach nag erioed, ac fe ddangosodd y bobl ifanc fod ganddyn nhw’r ddawn i wneud hynny mewn ffordd ddychmygus, greadigol.”
Nod y Sgriblwyr Cymraeg a'r Daith Scribblers cyfrwng Saesneg a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn yw ennyn diddordeb ac annog y genhedlaeth nesaf i adrodd straeon a sgwrsio, gan ysbrydoli empathi a chreadigrwydd.
Bellach yn eu trydedd flwyddyn ar ddeg, mae'r teithiau'n rhoi cyfle i ddisgyblion ymgysylltu â'u prifysgolion agosaf a phrofi bywyd ar y campws hefyd.
Dywedodd prif weithredwr Gŵyl y Gelli, Julie Finch: "Rydym yn credu bod diwylliant yn perthyn i bawb.
“Trwy fynd ag awduron yn uniongyrchol at ddisgyblion ledled Cymru mewn gweithdai creadigol, am ddim, nod Sgriblwyr Cymraeg yw ehangu mynediad at ysbrydoliaeth yr ŵyl wrth ysgogi cariad at lenyddiaeth o oedran ifanc.
“Drwy gymryd rhan yn ein digwyddiadau, bydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ystyried eu creadigrwydd, cymryd rhan mewn sgyrsiau newydd, a darganfod ffyrdd newydd o fynegi eu hunain ac ysbrydoli eu hunaniaethau creadigol."
Cynhaliwyd Sgriblwyr Cymraeg Addysg Gŵyl y Gelli 2024 rhwng 4 ac 8 Tachwedd, gyda gweithdai yn cael eu cynnal ym mhrifysgolion Abertawe, Caerdydd, Bangor a Wrecsam yn ogystal ag Aberystwyth.