MAE chwedloniaeth wedi diddori’r awdur Peredur Glyn erioed, a’r wythnos hon cyhoeddir ei ail gyfrol ffuglen wedi ei hysbrydoli gan chwedlau Cymru.

Mae Cysgod y Mabinogi (Y Lolfa) yn nofel arswyd epig a ddisgrifir gan Bethan Gwanas fel “storm o nofel” a “meistrolgar; do’n i wir methu ei rhoi i lawr.”

Meddai Huw Aaron bod gan y llyfr “y diweddglo mwyaf epig a welodd llên Cymru erioed.”

Eglura Peredur Glyn: “Rhywbeth sydd wastad wedi fy niddori ydi’r ffaith nad y fersiynau gwreiddiol, cynharaf o’r chwedlau sydd yn y llawysgrifau sydd gennym ni heddiw, fel Llyfr Coch Hergest a Llyfr Gwyn Rhydderch, ond fersiwn o ryw 700 mlynedd yn ôl sydd wedi digwydd gael ei chofnodi ar bapur.

“Mae’r Bedair Gainc yn llawer hŷn na hynny, ond i bob pwrpas ar goll i ni.

“Dyma daniodd y syniad a oedd yn gnewyllyn i fy nghyfrol gyntaf, Pumed Gainc y Mabinogi (Y Lolfa, 2022), sef bod rheswm pam doedd y straeon gwreiddiol ddim wedi goroesi am fod y chwedlau’n seiliedig ar wirionedd, a bod y gwirionedd hwnnw yn rhy ofnadwy i bobl Cymru ddelio ag o!”

Mae Cysgod y Mabinogi wedi’i leoli mewn realiti amgen ble mae Cymru yn cael ei bygwth gan gymeriadau o’r hen chwedlau sydd wedi dychwelyd. Mae’r stori yn un llawn cyffro ac antur.

“Rydw i’n hoffi’r genre arswyd fel ffordd o ymdrin â themâu cyfoes fel hunaniaeth, traddodiad a chartref,” meddai’r awdur.

“Mae’r prif gymeriadau yn cyfleu agweddau gwahanol o Gymru a Chymry heddiw.

“Mae’r nofel hefyd yn ailafael mewn ambell gymeriad ac edau o Bumed Gainc y Mabinogi, ond mae’n sefyll ar ei phen ei hun ac felly fe all unrhyw un ei mwynhau.”

Mae’r nofel wedi’i hysgrifennu o safbwyntiau gwahanol gymeriadau, sydd â’u ffyrdd eu hunain o ysgrifennu, siarad a dehongli’r byd o’u cwmpas.

Mae pedwar arwr annhebygol yn cael eu taflu at ei gilydd wrth geisio trechu cwlt sydd â chynlluniau ysgeler i newid Cymru am byth.

Daw Peredur Glyn o Fodffordd, Môn. Aeth i Goleg Queens’, Caergrawnt, i astudio Astudiaethau Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg gan gwblhau BA, MA ac MPhil yn y maes.

Ar y cwrs hwn y datblygodd ei ddiddordeb a gwybodaeth academaidd o straeon, hanes a mytholeg canol-oesol Cymraeg, sydd yn chwarae rhan flaenllaw yn nifer o straeon y gyfrol.

Erbyn hyn, mae’n Uwchddarlithydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Cysgod y Mabinogi gan Peredur Glyn ar gael nawr (£11.99, Y Lolfa).