Mae Cered: Menter Iaith Ceredigion, mewn partneriaeth â’r orsaf radio Cymru Sport, wedi cydweithio ar brosiect Cynllun Gohebwyr Ifanc Ceredigion.

Bwriad y prosiect yw rhoi cyfle i bobl ifanc sylwebu ar gemau pêl droed byw drwy gyfrwng y Gymraeg yn Aberystwyth gyda Chlwb Pêl Droed Merched Aberystwyth yn y Genero Adran Premier a Chlwb Pêl Droed Dynion Aberystwyth yn y Cymru Premier yn ystod tymor 2023/24.

Gareth Roberts, Lily-May Welsby a Caiomhe Pennant o Ysgol Penweddig sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect a sylwebu ar nifer o gemau byw yn nhymor 2023/24.

Dywedodd Caiomhe: “Dwi wedi magu llawer o hyder yn sylwebu ar y radio, ma fe di bod yn ffantastig.”

Ychwanegodd Gareth: “Dwi wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu ac ymchwilio trwy sylwebu.”

Cytunodd Lily May drwy ddweud: “Dwi wedi cael llawer o brofiad yn gwneud hyn ac ma fe’n grêt os wyt ti am gael gyrfa yn y maes sylwebu.”

Yn dilyn llwyddiant y prosiect eleni, bydd Cered yn parhau gyda’r Prosiect Cynllun Gohebwyr Chwaraeon Ifanc ar gyfer tymor pêl droed 2024/25 ac maent yn edrych i ehangu a sylwebu gemau clybiau eraill yng Ngheredigion.

Cynhelir Gweithdy Sylwebu gyda Cered a Cymru Sport ar 19 Medi yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o’r enw ‘Tu ôl y Meic’ gyda’r sylwebydd proffesiynol o Sgorio, Mei Emrys. Croesawir pobl ifanc 14 – 19 oed i fynychu’r digwyddiad am ddim.

Dywedodd Rhodri Francis o Cered: “Dyma’r ail flwyddyn rydym wedi ymgymryd â’r prosiect ac mae wedi profi i fod yn llwyddiannus iawn gyda phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan.

“Diolch i Gyngor Tref Aberystwyth am y gefnogaeth ariannol tuag at y prosiect ar gyfer tymor 2024/25 a hefyd i Glwb Pêl Droed Aberystwyth am weithio mewn partneriaeth â ni a rhoi cyfle unigryw ac anhygoel i bobl ifanc yr ardal i sylwebu ar eu gemau.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiwylliant: “Mae pob cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg a'i chyplysu gydag adloniant, gweithgareddau hamdden a chymdeithasu yn waith cwbwl sylfaenol i bob Menter Iaith.

“Mae’r prosiect yma yn dangos i bobl ifanc bod yr iaith yn fyw ac yn greiddiol i fyd chwaraeon yng Nghymru a mae’n wych clywed am bobl ifanc lleol sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau ym maes newyddiaduriaeth chwaraeon.

“Mae nifer fawr o acenion Ceredigion i’w clywed ar y BBC a sianeli eraill yn sylwebu ar pob math o gampau - a mae’n dda gwybod bod yna rai yn paratoi at wneud hynny yn y dyfodol!”