MAE llwyfan newydd yn helpu plant i ddarllen Cymraeg, hyd yn oed os nad yw eu rhieni'n gallu gwneud hynny, trwy eu dysgu sut i ynganu geiriau.

Mae Darllen Co, sydd eisoes yn helpu dros 52,000 o ddefnyddwyr yng Nghymru ac ar draws y byd i ddysgu darllen yn Gymraeg, wedi cael cefnogaeth gan gronfa Lywodraeth Cymru ar gyfer technoleg Gymraeg newydd.

Mae'r llwyfan darllen digidol, y mae'n rhaid talu amdano, wedi'i ddylunio gan athrawon Cymraeg ar gyfer ysgolion a theuluoedd.

Mae'n cynnwys dros 180 o lyfrau a chylchgronau gan dros 20 o awduron Cymraeg, yn ogystal â llyfrau sain a chwis integredig.

Mae dros 300 o ysgolion cyfrwng Cymraeg eisoes wedi tanysgrifio i'r llwyfan, er mwyn datblygu sgiliau darllen Cymraeg dysgwyr.

Mae'r llwyfan hefyd yn cynnwys system asesu ac olrhain sy'n caniatáu i athrawon fonitro cynnydd dysgwyr.

Gall dysgwyr gael at y llwyfan yn yr ysgol neu gartref, ar unrhyw ddyfais ddigidol.

Mae llyfrau llafar ac adnoddau darllen y platfform yn ei gwneud hi'n haws i blant ddysgu Cymraeg gartref, hyd yn oed os nad yw eu rhieni'n defnyddio'r Gymraeg, trwy ddysgu ynganiad geiriau iddyn nhw.

Darllen Co yw'r unig lwyfan o'i fath yn Gymraeg ac mae pobl ledled y byd yn elwa arno, gyda defnyddwyr yn yr Eidal, Texas, Dubai, Slofacia, Lloegr a Phatagonia.

Mae'r platfform yn gobeithio ehangu i ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, i helpu hyd yn oed mwy o ddysgwyr gyda'u sgiliau Cymraeg.

Dywedodd Mr Scozzi o Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin: “Ers esblygiad y llwyfan, rydym bellach yn mwynhau mwy o lenyddiaeth, nodweddion newydd a data mwy manwl i ni athrawon ei ddehongli.

“Ar ben datblygu sgiliau darllen rydym hefyd yn defnyddio'r llwyfan i brofi dealltwriaeth gyda chyfleoedd i blant datblygu sgiliau darllen a deall amrywiol.”

Derbyniodd Darllen Co £30,000 gan Lywodraeth Cymru i sefydlu'r llwyfan gwreiddiol yn 2022, fel rhan o'i nod i ddatblygu technoleg Gymraeg.

Sicrhaodd y llwyfan y buddsoddiad hwn yn dilyn cyflwyniad ardderchog gan ei sylfaenydd, Alex Knott, yn Hac y Gymraeg - her 'hacathhon' Gymraeg a oedd â'r nod o ysbrydoli syniadau technoleg newydd yng Nghymru.

Mae Darllen Co hefyd yn gweithio gydag Adnodd ar asesiad darllen digidol a fydd yn rhad ac am ddim i ysgolion yn y tymor nesaf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford: “Mae'n wych gweld y rhan fwyaf o'n hysgolion cyfrwng Cymraeg yn defnyddio'r gwasanaeth sydd gan Darllen Co i'w gynnig.

“Gyda chefnogaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae'r gwasanaeth yn newid sut mae pobl yn trin a thrafod y Gymraeg yn ddigidol, o blant ysgol yng Nghaerdydd i siaradwyr Cymraeg ym Mhatagonia.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Mae darllen yn hanfodol i addysg.

“Mae llwyfan arloesol Darllen Co yn cefnogi plant i ddatblygu eu sgiliau darllen Cymraeg ac adeiladu eu hyder, gartref ac yn yr ysgol.”