CYNHALIWYD Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn yn Neuadd Egryn, ddydd Sadwrn 15fed o Chwefror.
Braf iawn oedd gweld y neuadd yn orlawn gyda chynulleidfa frwd.
Yn dilyn llwyddiant Eisteddfod llynedd penderfynwyd dilyn yr un drefn sef un cyfarfod yn cychwyn 1 o’r gloch yn y prynhawn gyda chystadlaethau ar gyfer cystadleuwyr o dan yr oedran 25 yn unig.
Braf yw nodi fod yr eisteddfod wedi bod yn llwyddiant unwaith eto eleni a’i bod yn mynd o nerth i nerth.
Y beirniaid eleni oedd:
Cerdd, Cerdd Dant ac Alaw Werin – Huw Ynyr Evans, Rhydymain.
Llefaru a Llenyddiaeth (Dan 25 oed ac Agored) – Eurig Salisbury, Aberystwyth.
Llenyddiaeth Cynradd – Arwel a Gwenfair Pierce, Bryncrug.
Gwaith Celf – Mercia Hammond, Llanegryn.
Tudur P Jones, Tywyn oedd yn cyfeilio yn ôl yr arfer, a'r arweinyddion oedd Janet Pugh ac Edward Jones. Diolch iddynt oll am eu gwaith trylwyr.
Cafodd y gwaith celf a’r llenyddiaeth eu harddangos yn y neuadd fel yr arfer.
Cyflwynwyd gwobr oedran y Cyfnod Sylfaen er cof am Elain Heledd i’r perfformiad llwyfan gorau sef Gwenno Evans a’r wobr i’r eitem gelf orau i Bella Fox. Diolch i Ysgol Craig Y Deryn am eu cefnogaeth yn yr adran gwaith llaw ac yn y cystadlaethau llwyfan ac i Goleg Meirion Dwyfor am eu cefnogaeth gyda’r gwaith llenyddol.
Braf oedd croesawu Kaye Gabriel, Tywyn atom i Lanegryn fel Llywydd yr Eisteddfod eleni.
Merch yn enedigol o Gastell Mawr, Rhoslefain ydyw ac fe fynychodd yr Ysgol Gynradd yma yn Llanegryn.
Bellach mae’n gweithio yn y fferyllfa ac yn ‘Spar’ yn Nhywyn.
Yn ystod ei haraith cyfeiriodd at ei phrofiad o gystadlu yn yr eisteddfod hon pan yn ddisgybl yn yr ysgol. Atgofion melys oedd ganddi o ddysgu cerdd dant gydag Anti Mair a recorder gyda Bethan Davies.
Roedd hithau, fel ei chwiorydd, yn cael gwersi piano gan Tudur Jones ac yna dysgodd chwarae’r sacsoffon pan yn hŷn.
Roedd cerddoriaeth yn amlwg yn bwysig yn ei bywyd ac roedd y profiad cynnar hwn o sefyll ar lwyfannau eisteddfodau lleol y fro wedi bod yn werthfawr iawn iddi. Diolch Kaye am ddod atom.
Daeth Eurig Salisbury ymlaen ar ddiwedd cystadlaethau’r llwyfan i draddodi beirniadaeth cystadleuaeth y gadair.

Roedd pedwar wedi cystadlu ond gyda siom fe gyhoeddodd nad oedd yr un ohonynt yn ei farn ef yn haeddiannol o’r gadair.
Yn bendant roedd yn gweld potensial yn un o’r cyfansoddiadau ond nid oedd y gwaith yn ei gyfanwaith yn ddigon da i dderbyn y gadair.
Noddodd mai pwysig oedd cadw safonau ac felly rhaid oedd atal y wobr am eleni.
A thra ein bod, wrth reswm, yn siomedig nad oedd teilyngdod ac na chawsom gyfle i wrando ar Mererid Morris yn canu cân y cadeirio, rydym yn ddiolchgar iawn i Eurig Salisbury am feirniadu’r gystadleuaeth ac am ei sylwadau.
Canlyniadau Llwyfan
Unawd Meithrin a Derbyn:1. Tove McCarter-Stockton 2. Ellis Caskin 3. Caio Robert a Guto Jones
Llefaru Meithrin a Derbyn:1. Ellis Caskin a Tove McCarter-Stockton 2. Caio Roberts
Unawd Bl 2 ac iau: 1. Gwenno Evans 2. Silyn Breese 3. Imogen Rose Perks
Llefaru Bl 2 ac iau: 1. Gwenno Evans 2. Silyn Breese 3. Toby Wilkes
Gwobr Goffa er côf am Elain Heledd am y Perfformiad Llwyfan Gorau: Gwenno Evans
Gwobr Goffa er côf am Elain Heledd am y Gwaith Celf Gorau: Bella Fox
Unawd Bl 3 a 4: 1. Casi Roberts 2. Owain Jones 3. Greta Jones a Rosie Pugh
Llefaru Bl 3 a 4: 1. Jacob Smith 2. Curig Breese 3. Owen Moss
Unawd Cerdd Dant Bl 3 a 4: 1. Greta Jones
Unawd Bl 5 a 6: 1. Nansi Evans 2. Aron Wyn Davies 3. Isla Jones
Llefaru Bl 5 a 6: 1. Emrys Jarman 2. Nansi Evans 3. Aron Wyn Davies a Jack Pugh
Unawd Cerdd Dant Bl 5 a 6: 1. Nansi Evans 2. Emrys Jarman
Unawd Alaw Werin Bl 6 ac iau: 1. Nansi Evans 2. Aron Wyn Davies 3. Emrys Jarman
Deuawd Bl 9 ac iau: 1. Loti Ebery a Emmi Roberts
Unawd Piano / Bl 9 ac iau: 1. Malena Aled 2. Aneira Fflur Jones 3. Gwilym Egryn Jones a Gwenlli Jones
Unawd Bl 7-9: 1. Malena Aled 2. Gwenlli Jones
Llefaru Bl 7-9: 1. Malena Aled 2. Gwilym Egryn Jones 3.Gwenlli Jones
Unawd Cerdd Dant Bl 7-9: 1. Malena Aled
Unawd Alaw Werin Bl 7-9: 1. Gwenlli Jones
Unawd Piano neu Unrhyw Offeryn Cerdd dan 19 oed: 1.Aneira Fflur Jones
Llefaru dan 19 oed: 1. Malena Aled 2. Aneira Fflur Jones
Unawd Cerdd Dant dan 25 oed: 1. Elain Iorwerth
Llefaru dan 25 oed: 1. Huw Jarman
Unawd dan 25 oed: 1. Elain Iorwerth 2. Huw Jarman
Unawd Piano / Unrhyw Offeryn Cerdd dan 25: Aneira Fflur Jones
Cân Werin dan 25 oed: 1. Elain Iorwerth
Canu Emyn dan 25 oed: 1. Elain Iorwerth 2. Huw Jarman
Unawd o Sioe Gerdd dan 25 oed: 1. Elain Iorwerth
Canlyniadau Llenyddiaeth
Meithrin: 1. Miley Fox 2. Dominic Alexander 3. Mabon Jones
Derbyn: 1. Olivia Perks 2. Ester Ellis 3. Ivy Pennington
Bl 1 a 2: 1. Cynan Jones a Reuben Gibbins 2. Grace Hughes a John Davenport 3. Arabella Bradbury-Willis a Freya Hooper
Bl 3 a 4: 1. Rosie Pugh 2. Henry Thorpe 3. Jacob Smith
Bl 5 a 6: 1. Jack Pugh 2. Nia Hobbs 3. Edward Turner a Annie Rhys Jones
Dan 25 oed: Darn o farddoniaeth neu ryddiaith ar unrhyw ffurf hyd at 2,000 o eiriau. Bydd y tri darn o waith buddugol yn mynd ‘mlaen i gystadleuaeth ‘Tlws yr Ifanc’ yn Eisteddfod Genedlaethol 2025:
Roedd 23 o bobl ifanc Gwynedd wedi dangos eu doniau ysgrifennu mor amrywiol eto eleni. Anhygoel a braf gweld cymaint o lenorion ifanc yn mentro i gystadlu. Uchafbwynt y gwaith llenyddol ym marn y beirniad Eurig Salisbury. Nododd fod tuedd gan y llenorion ifanc i ysgrifennu gormod yn y gwaith rhyddiaith. Awgrymodd efallai mai da o beth fyddai cyfyngu’r gwaith i hyd at 2 neu 3 ochor. Roedd nifer wedi ysgrifennu ar ffurf ymson, yn gryno yn y person cyntaf a’u bod bron yn ddramatig. ‘Washi’ oedd ffug enw’r llenor a ddaeth i’r brig a nododd Eurig Salisbury mai dyma’r darn a adawodd ei farc ar ei ddarlleniad cyntaf. Ymhelaethodd fod y darn rhyddiaith hwn yn waith cynnil ac yn ddarlun hyfryd o gyfeillgarwch rhwng dau ffrind.
1. Huwcyn Jones 2. Lea Roberts 3. Robin Humphreys
Cyfieithu – Cafwyd canmolaeth gan Eurig Salisbury i’r sawl a ddewisiodd y darn i’w gyfieithu sef Llywela Hughes. Nododd ei fod yn ddarn addas a diddorol iawn. Y darn dethol oedd Detholiad o ‘Bred of Heaven’ gan Jasper Rees “One man’s quest to reclaim his roots”.
1. Trefor Huw Jones 2. Llifon Jones 3. Tesni Peers
Parodi ar ‘Yma wyf inna i fod’ : 1. Bethan Davies 2. Manon Williams
Brawddeg o’r gair ‘Eryri’: 1. Eurgain Owen 2. Bethan Davies 3. Olwen Griffiths
Erthygl ar gyfer Papur Bro 1. Bethan Davies
Cystadleuaeth i’r dysgwyr - “Adolygiad o ffilm” 1. Veronica Savage
Canlyniadau Celf – Thema Gwreiddiau
Meithrin: 1. Rory McDowall 2. Miley Fox 3. Mabon Jones
Derbyn: 1. Olivia Perks 2. Ester Ellis 3. Tove McCarter- Stockton
Bl 1 a 2: 1. Bella Fox 2. Erin Jones 3. Elsi Ellis
BL 3 a 4: 1. Owain Jones 2. Owen Moss 3. Celyn Nelson
Bl. 5 a 6: 1. Anni Rhys Jones 2. Daisy Moss 3. Nia Hobbs a Edward Turner