MAE dwy chwaer o Gaernarfon wedi lansio prosiect newydd o’r enw Llai, sydd â’r nod o herio’r ffordd yr ydym yn meddwl am ffasiwn.

Mae Lois Prys ac Angharad Prys yn gobeithio newid meddylfryd trwy symud i ffwrdd o ffasiwn cyflym, gan ystyried beth yw ffasiwn cynaliadwy.

Fel rhan o brosiect Llai, bydd y ddwy chwaer yn trefnu gweithdai mewn ysgolion lleol ac yn y gymunedol i ddysgu pobl sut i drwsio, addasu neu wnio eu dillad eu hunain, cynnal ffeiriau ffeirio dillad, a rhannu awgrymiadau ymarferol ar gyfryngau cymdeithasol ar sut y gallwn ni i gyd arafu, siopa llai, a dysgu caru beth sydd gennym ni’n barod.

Uchafbwynt y prosiect fydd Digwyddiad Ffasiwn Araf drwy’r dydd yn Pontio Bangor ar y 12fed o Ebrill.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda thri o gyn-gystadleuwyr The Great British Sewing Bee, gweithdai, caffi trwsio, ffair ffeirio dillad a sioe ffasiwn o ddillad wedi’u huwchgylchu wedi eu creu gan grwpiau cymunedol, ysgolion, a choleg lleol.

Bydd stondinau dillad hefyd gan frandiau ffasiwn cynaliadwy, siopau bwtîc vintage a siopau elusen lleol.

Cynhelir digwyddiad cynta'r prosiect, sef Ffair Ffeirio Dillad, yn Yr Eagles Llanuwchllyn, nos Wener, 21 Chwefror am 6pm. Mwy o fanylion a thocynnau ar gael o Instagram (@ProsiectLlai) neu Facebook (@Llai).

Dywedodd Angharad: “Gyda miloedd o dunelli o ddillad yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, mae’n amser am newid.

“Rydyn ni eisiau i bobl feddwl cyn brysio i brynu’n newydd.

“Edrychwch ar yr hyn sydd eisoes yn eich cwpwrdd dillad a dysgwch sut i newid neu drwsio’r hyn sydd gennych yn barod, prynu’n ail-law neu wneud eich dillad eich hun, fel ein bod yn fwy caredig i’r blaned a’n pwrs.”

Ychwanegodd Lois: “Byddwn hefyd yn annog pobl i gefnogi eu siopau dillad annibynnol lleol a brandiau ffasiwn sy’n cynhyrchu eu dillad yn y DU gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy. O wneud hyn, pan fyddwn ni’n dewis prynu dillad newydd, rydym yn prynu'n well.

“Rydyn ni eisiau helpu pobl i newid eu meddylfryd ac arafu. Mae cael gormod o ddillad yn gallu bod yn llethol, a byddwch chi’n synnu cymaint haws yw hi i ddod o hyd i rhywbeth i’w wisgo pan fydd gennych lai o ddewis.”

Ariennir y prosiect gan Menter Môn, fel rhan o brosiect mwy o’r enw Cylchol sy’n hyrwyddo pob agwedd o economi gylchol yng Ngwynedd a Môn.

Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar @ProsiectLlai ar Instagram a @Llai ar Facebook.