“’Ry’n ni’n meddwl dechre grŵp,” medde Iestyn (Garlick) wrtha i un diwrnod rhwng darlitho’dd... “Pam lai?” medde fi, a dyma ddechre ar ’y mherthynas i â’r byd adloniant Cymraeg.”

Felly mae Cleif Harpwood yn ei dweud hi, ac mae ei hunangofiant, Breuddwyd Roc a Rôl? (Y Lolfa) yn dweud llawer mwy hefyd.

Mae’n rhyfedd sut mae moment mor ymddangosiadol fach yn gallu dal cymaint o ystyr wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddynt, oherwydd roedd y foment hon yn foment fawr mewn gwirionedd.

Dyma ysbardun gyrfa’r canwr a’r perfformiwr gwalltog, ac mae’n dal i ganu a pherfformio gyda’r un angerdd digymar hyd heddiw.

Cleif Harpwood – yn aelod o fand Ac Eraill, yn brif leisydd i fand Edward H. Dafis, ac yn beth wmbredd mwy hefyd.

Cawn yma flas ar y rhan a chwaraeodd ef wrth fynd yn groes i’r graen ac arloesi ar y sîn roc, a chawn fewnwelediad ar yr ochr chwerw o’i fywyd a’i yrfa, sy’n profi na fu popeth yn fêl i gyd iddo.

Parti cerdd dant buddugol Porthmadog, 1964
Parti cerdd dant buddugol Porthmadog, 1964 (Submitted)

Meddai’r awdur: “Do, fe gawson ni lot fawr o hwyl wrth deithio Cymru ac mae’r gyfrol yn adrodd ambell stori am y giamocs a’r direidi oedd yn rhan o’r profiad o fod mewn band.

“Mae hefyd yn ymdrin â’r berthynas arbennig oedd yn bodoli rhwng y pump aelod, mi ro’dd Edward H yn frawdoliaeth.

“Y tristwch yw bod pundits y sîn roc heddiw yn diystyru’r cyfnod hwn yn llwyr gan mai 1980au yn eu tyb nhw oedd dechreuad y byd roc Cymraeg.”

Tu hwnt i hynny, gwelwn fod bro ei febyd wedi bod yn llinyn arian gydol ei fywyd.

Ac Eraill, cefn llwyfan yn Hendy-gwyn ar Daf, 1972
Ac Eraill, cefn llwyfan yn Hendy-gwyn ar Daf, 1972 (Submitted)

Meddai: ‘Cefais fy magu yn Afan Walia, tiriogaeth Arglwyddi Cymreig dyffryn Afan. Rwy’n teimlo bod ardaloedd sy’n bennaf ddi-Gymraeg fel Port Talbot wedi’u dilorni gan lawer o bobl dros y blynyddoedd, ond rwy’n gobeithio bydd y gyfrol hon yn amlygu’r diwylliant Cymraeg cyfoethog a fu yno dros y canrifoedd.”

Ond wrth gwrs, caiff y lleddf le i anadlu yn y llyfr hwn hefyd, wrth i’r awdur ddweud iddo ddioddef o iselder o ganlyniad i sefyllfa heriol.

Meddai: “Mae’r gyfrol yn adrodd cyfnod yn f’ieuenctid pan oedd ’na bwysau mawr arnaf gan un garfan o’r teulu i ymroi at fath o gred nad oeddwn am ei harddel.

Bois Ffostrasol, dilynwyr selog Edward H
Bois Ffostrasol, dilynwyr selog Edward H (Submitted)

“Fe heuwyd had ynof a eginodd deimlad o euogrwydd gormesol, a dyna dwi’n meddwl oedd gwraidd y cyflwr.

“Roedd prysurdeb bywyd yn cadw’r felan draw, ond ro’dd teulu a chydnebydd yn gwybod mod i’n gallu bod yn berson dwys ac oriog.”

Uwd, uwd, pwy fytodd yr uwd?
Uwd, uwd, pwy fytodd yr uwd? (Submitted)

Ond pam nawr? “Yn bennaf oherwydd mod i’n dathlu fy mhen-blwydd yn 70 oed yn 2023, a roeddwn yn teimlo, fel un sydd wedi cael y fraint o fyw bywyd digon amrywiol a lliwgar, llawer ohono yn llygaid y cyhoedd, bod ’na agwedde eraill o ’mywyd yr hoffwn eu rhannu – y llon a’r lleddf. [...] Rwy’n gobeithio bydd y gyfrol wrth fodd y darllenydd, pwy bynnag y bo, ac yn ysgogiad i’r bobol hynny, fel fi, o’dd unwaith ar yr ymylon ond a ddarganfu mor werthfawr yw bod yn Gymro neu’n Gymraes.’”

Bydd Breuddwyd Roc a Rôl? gan Cleif Harpwood ar gael yn fuan (£14.99, Y Lolfa)