O FÔN i Faldwyn, i Fynwy a thu hwnt i Gymru, mae’r Urdd yn falch o ddatgan y bydd 80,937 o blant a phobl ifanc wedi camu ar 210 o lwyfannau Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth eleni, sydd yn fwy nag erioed o’r blaen.
At hynny, y rhanbarth â’r nifer uchaf o gystadleuwyr ar draws Cymru yw’r ardal sy’n croesawu’r brifwyl eleni, sef Gorllewin Morgannwg.
Yn ogystal â diolch i’r cystadleuwyr, athrawon a’u hyfforddwyr, mae’r Urdd yn datgan diolch i’r miloedd o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser i sicrhau llwyddiant yr holl Eisteddfodau lleol a rhanbarthol.
Cynhelir rowndiau terfynol y cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025 ym Mharc Margam, Castell-nedd Port Talbot, yn ystod hanner tymor mis Mai (26-31 Mai).
Mae Parc Gwledig Margam yn atyniad lleol poblogaidd sy’n adnabyddus am erddi hardd, castell hanesyddol a pharcdir eang.
Yn ddiweddar fe’i henwebwyd yn un o lecynnau glas mwyaf trawiadol Prydain yn 2024, a dathlodd 11 mlynedd o’r bron o gael ei gynnwys yng ngwobr arwyddocaol Dewis y Bobl.
Bydd y parc, sydd hefyd wedi derbyn dyfarniad statws achrededig Safle Treftadaeth Baner Werdd, yn cael ei drawsnewid yn ardal fywiog ar gyfer plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar gyfer wythnos Eisteddfod yr Urdd.
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Ry’n ni’n ymfalchïo mewn gweld cynnydd yn ein cystadleuwyr ar draws Cymru unwaith eto eleni.
“Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddathliad o ddoniau di-ri ein plant a’n pobl ifanc, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo a chynnal y Gymraeg ynghyd â’r celfyddydau yng Nghymru.
“Diolch i bawb am gymryd rhan, a llongyfarchiadau i’r rheiny sydd drwodd i’r Genedlaethol – welwn ni chi ym Margam!”
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae’n wych clywed fod mwy o blant a phobl ifanc o Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi cystadlu mewn Eisteddfodau lleol nag erioed o’r blaen – a mwy nag unrhyw ranbarth arall yng Nghymru eleni.
“Edrychwn ymlaen at groesawu’r holl ymwelwyr i’r lleoliad rhagorol hwn, ac i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant!”
- Trwy gynllun Aelodaeth £1 yr Urdd. Bydd yr Urdd yn e-bostio teuluoedd sydd yn derbyn Aelodaeth £1 yr Urdd hefo manylion hawlio tocynnau.
- Trwy wefan yr Urdd. Bydd angen i berson neu deulu nodi eu bod yn gymwys i un o’r meini prawf wrth hawlio tocynnau. Bydd manylion llawn y meini prawf ar gael ar y wefan.
Yn arwain at yr Eisteddfod, bydd yr Urdd yn cyd-weithio â Chyngor Castell-Nedd Port Talbot, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadu sydd yn cefnogi teuluoedd incwm isel i sicrhau fod y wybodaeth yn cyrraedd pobl gall elwa o’r cynllun.
Mae modd prynu tocynnau neu hawlio tocyn mynediad am ddim i’r ŵyl drwy fynd i www.urdd.cymru/eisteddfod.