MAE tocynnau ar gyfer cynhyrchiad newydd sbon Cwmni Theatr yr Urdd, Ceridwen, wedi mynd ar werth.
Yn dilyn llwyddiant Deffro’r Gwanwyn yn 2023 a Ble Mae Trenau’n Mynd Gyda’r Nos a Chwestiynau Mawr Eraill Bywyd yn 2024, mae mwy nag erioed wedi ymgeisio am gyfle i fod yn rhan o’r cynhyrchiad newydd, ers i’r Urdd ail-lansio’r Cwmni yn 2022.
Mae 60 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru wedi cael eu castio, a byddant yn dod ynghyd am y tro cyntaf i ymarfer yng Ngwersyll Llangrannog fis Ebrill.
“Pan fyddwch chi’n meddwl am y Mabinogi, prin fyddwch chi’n meddwl am Ceridwen, ond mae’n gymeriad holl bwerus, hi yw’r awen, a hi yw seren ein sioe ni eleni,” esbonia Branwen Davies, Trefnydd Cwmni Theatr yr Urdd.
.png?trim=0,0,0,0&width=752&height=500&crop=752:500)
“Gyda merched yn amlwg ar y llwyfan eleni, mae hynny wedi treiddio trwodd i’r tîm creadigol. Rydan ni’n falch o allu rhoi llwyfan i ferched a rhoi merched mewn golau newydd yn y cynhyrchiad uchelgeisiol hwn.”
Mae’r tîm creadigol yn cynnwys y gyfansoddwraig Lynwen Hâf Roberts, sy’n gyn-aelod o’r Cwmni, y gyfarwyddwraig Alice Eklund, a’r dramodydd ifanc Lowri Morgan o Gaernarfon, un a ddechreuodd ei gyrfa gyda SBARC yn y Galeri, ac sy’n edrych ymlaen yn arw i weld ei chynhyrchiad hi ar y llwyfan yno.
“Dwi mor gyffrous bod Ceridwen yn mynd ar daith - yn enwedig i Gaernarfon ble ces i fy magu,” meddai’r dramodydd Lowri Morgan. “Yn y Galeri wnes i fynychu fy nosbarth drama gyntaf a darganfod y byd theatr, felly mae'n teimlo'n swreal bod fy nrama i yn cael ei berfformio yna!
“Pan oni’n ysgrifennu Ceridwen, oni'n awyddus i greu stori mewn byd newydd gydag ysbrydoliaeth gan y Mabinogi. Mae Ceridwen yn stori antur yn digwydd mewn coedwig hudol sydd yn canolbwyntio ar ymddiried yn dy hun a dysgu o dy gamgymeriadau. Mae o'n crybwyll pwysigrwydd traddodiad ond gyda lleisiau ifanc yn ein harwain tuag at ddyfodol modern, heddychlon a gobeithiol.”
Bwriad Cwmni Theatr yr Urdd yw rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 15 a 25 oed i fod yn rhan o gynhyrchiad theatr broffesiynol, boed hynny fel rhan o’r cast neu yn rhan o’r criw technegol, gwisgoedd a cholur neu’r criw cynhyrchu.
Meddai’r Gyfansoddwraig Lynwen Hâf Roberts: “Fel cyn-aelod o Gwmni Theatr yr Urdd, mae hi ‘di bod yn fraint i gael fy holi nôl i weithio ar ochr arall y bwrdd! Mae hi ‘di bod yn broses mor ffrwythlon i gael gweithio hefo Branwen a’r tîm ar greu darn newydd o waith sy’n heriol ond hefyd yn rhywbeth y gall ein pobl ifanc gymryd perchnogaeth drosto.”
Mae Lynwen yn credu’n gryf bod gan y Cwmni a’r Urdd rôl bwysig i’w chwarae yn nyfodol y theatr Gymreig. “Fel Cyfarwyddwr Cerdd a Chyfansoddwr sy’n dal i ganfod ei thraed o fewn y diwydiant, mae ymrwymiad yr Urdd tuag at gefnogi gwneuthurwyr theatr ar ddechrau eu gyrfaoedd yn hollbwysig er mwyn sicrhau fod y diwydiant theatr Gymreig yn parhau i ddatblygu, yn barod ar gyfer y bobl ifanc fydd o bosib yn ymuno â hi yn y dyfodol.”
Bydd Ceridwen yn brofiad theatrig unigryw, egnïol a ffres i’r gynulleidfa. Wedi ei lleoli mewn coedwig, mae’n stori llawn hud, gwrachod a thylwyth teg a llond gwlad o anturiaethau. Mae’n agor gyda’r chwedl adnabyddus ond yna’n carlamu ar drywydd gwahanol, gyda chast ifanc dynamig a cherddoriaeth fyw. Yn ganolog i’r cyfan mae negeseuon pwysig am yr amgylchedd a chydweithio i oroesi.
Llwyfannir Ceridwen ar 25 a 26 o Orffennaf yn y Lyric, Caerfyrddin ac yn Galeri Caernarfon ar 30 a 31 Gorffennaf. Bydd dehongliadau BSL yn y ddau leoliad. Mae tocynnau ar werth o’r Lyric a’r Galeri ar ddiwrnod cyntaf y gwanwyn, sef 21 Mawrth 2025.