BYDD Cowbois Rhos Botwnnog, HMS Morris a Pedair ymysg rheiny fydd yn chwarae yn gigs Cymdeithas yr Iaith ym Mhontypridd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Cyhoeddodd Dylan Jenkins, trefnydd gigs Cymdeithas yr Iaith eleni, rhai o’r artistiaid fydd yn chwarae yn gigs y mudiad eleni ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru.

Bydd y gigs yn cymryd lle yng Nghlwb Rygbi Pontypridd, sydd hanner milltir o Faes yr Eisteddfod a hanner milltir o’r orsaf reilffordd, gyda digwyddiad pob nos o ddydd Sadwrn cyntaf tan olaf yr Eisteddfod.

Meddai:“Dwi’n hynod gyffrous i gyhoeddi artistiaid cyntaf lein-yp Gigs Cymdeithas eleni.

Dwi’n siŵr y bydd yn wythnos anhygoel o gerddoriaeth amrywiol, gyda rhywbeth i bawb.

“Dy’n ni’n falch iawn i allu rhoi llwyfan i fandiau ifanc, artistiaid profiadol ac ambell i enw mawr iawn.

“Dy’n ni wedi gweithio’n agos gyda thîm o wirfoddolwyr o’r ardal, a gyda Chlwb Rygbi Pontypridd, i sicrhau fod wythnos anhygoel o gerddoriaeth Cymraeg o’n blaenau fydd yn cyfrannu at brofiad yr Eisteddfod yn ogystal a rhoi hwb i’r gymuned yn lleol a’r clwb.”

Yn agor yr wythnos bydd noson gydag artistiaid Prosiect Forte, prosiect gyda’i wreiddiau yn Rhondda Cynon Taf, ac sy’n rhoi cyfleoedd i artistiaid newydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Bydd y noson yn arddangos artistiaid hen a newydd y prosiect, gan gynnwys Mali Hâf, skylrk a Francis Rees.

Yn ogystal â’r gerddoriaeth, bydd Bragdy’r Beirdd yn dychwelyd, gan addo noson llawn hwyl a digrifwch dan arweiniad Ifor ap Glyn, a dros 20 o feirdd, ar nos Fawrth y 6 Awst.

I gloi’r wythnos, bydd Gareth Potter (Tŷ Gwydr, Traddodiad Ofnus) yn atgyfodi ei barti dawns ef a Mark Lugg o’r 90au, REU, mewn teyrnged i’r diweddar Emyr Glyn Williams, Ankst.

Bydd £5 o werthiant bob tocyn ar gyfer y noson yn mynd at elusen.

Bydd y noson hefyd yn croesawu DJs blaengar i’r llwyfan, fel Cian Ciaran (Das Koolies, Super Furry Animals), System Sain Tŷ Gwydr, ac yr artistiaid electronig Ffrancon a Keyala.

I ddathlu’r lansiad, bydd nifer cyfyngedig o docynnau wythnos ar gael am gyfnod byr ar wefan Cymdeithas, a rheiny’n rhoi mynediad i’r wyth noson.