Llongyfarchiadau enfawr i’r garfan yma o Ysgol Godre’r Berwyn, Bala, am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth pêl-droed cynradd yr Urdd, Rhanbarth Meirionnydd, yr wythnos ddiwethaf.
Llwyddodd yr hogiau i ennill bob gêm yn y gyngrair i orffen ar y brig, gan sgorio goliau amrywiol ac o safon uchel.
Aethant ymlaen i guro Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd, yn y rownd cyn-derfynol 2-0.
Yn y ffeinal roeddynt yn wynebu Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn, a gorffenodd y gêm hynod o gyffrous yn 3-0 i Godre’r Berwyn.
Yn ogystal, llwyddodd y tîm i beidio ildio yr un gôl trwy’r gystadleuaeth, sydd yn dipyn o gamp.
Roedd agwedd, ymdrech a safon yr hogiau yn rhagorol a roeddynt yn llawn haeddu cael eu coroni’n bencampwyr.
Canlyniadau: YGB 6-0 Cefn Coch; YGB 2-0 Y Traeth; YGB 7-0 B. Tryweryn; YGB 1-0 Edmwnd Prys; YGB 5-0 Manod.
Cyn-derfynol: YGB 2-0 Traws
Ffeinal: YGB 3-0 OM Edwards