Coleg Ceredigion’s media students on a level three programme, recently took part in a week-long BFI Film Academy workshop which was a collaboration with Bulldozer Films.
This hands-on experience, facilitated on campus using the college's own equipment, showcased the real-world opportunities available to students’ pursuing diplomas and extended diplomas in creative media production and technology.
The workshop itinerary was packed with valuable sessions led by industry professionals.
It started with a short film review and a scripting masterclass with Thomas Rees, giving students foundational insights into narrative development.
In the afternoon, Tom Gripper led a session on shoot preparation, covering everything from planning to risk assessments, storyboarding and blocking. Tuesday featured discussions on film roles, sustainable production practices, and copyright, culminating in a valuable industry talk to deepen students' understanding of the broader film landscape.
The following day was designated the “shoot day" allowing students to put their skills into practice, followed by the “edit day" the day after.

Concluding with a masterclass by Tom Betts on screening techniques and feedback sessions, students had the opportunity to reflect on their work.
On the last day, the workshop wrapped up with portfolio reviews and a session on future opportunities within the BFI Film Academy, ensuring students left inspired and equipped for their next steps in the industry.
Laurence Hall of Bulldozer Films praised the partnership and said: "Running the BFI Film Academy with Coleg Ceredigion has been an incredibly rewarding experience.
“Seeing participants grow creatively and gain confidence in their filmmaking abilities was truly inspiring."
Sophia Bechraki, media course tutor at Coleg Ceredigion, reflected on the impact of the workshop and said: "Providing our students with this kind of real-world, industry-standard experience is at the heart of what we do.
“The BFI workshop not only enhanced their technical skills but also gave them invaluable insight into the collaborative nature of filmmaking. We’re incredibly proud of how our students embraced the challenge and grew as aspiring filmmakers over the course of the week."
The BFI Film Academy provides students with formal certification, enhancing their credentials and readiness for the creative industry.
This collaboration exemplifies the practical, industry-connected learning experiences available at Coleg Ceredigion, preparing students for successful careers in media and beyond.
Myfyrwyr cyfryngau yn mireinio eu sgiliau mewn gweithdy Academi Ffilm Sefydliad Ffilm Prydain (BFI): Cyfle unigryw i wneuthurwyr ffilm uchelgeisiol
Yn ddiweddar gwnaeth myfyrwyr cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion sydd ar raglen lefel tri gymryd rhan mewn gweithdy Academi Ffilm y BFI a oedd yn fenter ar y cyd â Ffilmiau Bulldozer.
Fe wnaeth y profiad ymarferol hwn, a hwyluswyd ar y campws gan ddefnyddio cyfarpar y coleg ei hun, arddangos y cyfleoedd byd go iawn sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau diploma a diploma estynedig mewn cynhyrchu a thechnoleg yn y cyfryngau creadigol.
Roedd amserlen y gweithdy’n orlawn o sesiynau gwerth chweil wedi’u harwain gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.
Dechreuodd gydag adolygiad ffilm byr a dosbarth meistr mewn sgriptio gyda Thomas Rees, gan roi mewnwelediadau sylfaenol i fyfyrwyr i ddatblygu naratif.
Yn y prynhawn, arweiniodd Tom Gripper sesiwn ar baratoi ar gyfer sesiwn saethu ffilm, gan gwmpasu popeth o gynllunio i asesu risg, creu bwrdd stori a blocio. Ar ddydd Mawrth cafwyd trafodaethau ar rolau ffilm, arferion cynhyrchu cynaliadwy, a hawlfraint gan ddiweddu mewn sgwrs werth chweil am y diwydiant i ddwysáu dealltwriaeth y myfyrwyr ynghylch y dirwedd ffilm ehangach.
Dynodwyd y diwrnod canlynol fel y “diwrnod saethu ffilm" gan ganiatáu i fyfyrwyr ymarfer eu sgiliau, a’r “diwrnod golygu" yn dilyn y diwrnod wedyn.
Wrth ddiweddu gyda dosbarth meistr gan Tom Betts ar dechnegau sgrinio a sesiynau adborth, cafodd y myfyrwyr y cyfle i adfyfyrio ar eu gwaith.
Ar y diwrnod olaf, daeth y gweithdy i ben gydag adolygiadau portffolio a sesiwn ar gyfleoedd o fewn Academi Ffilm y BFI yn y dyfodol, gan sicrhau bod y myfyrwyr yn gadael wedi’u hysbrydoli ac wedi’u paratoi ar gyfer eu camau nesaf yn y diwydiant.
Fe wnaeth Laurence Hall o Ffilmiau Bulldozer ganmol y bartneriaeth ac meddai: "Mae rhedeg Academi Ffilm Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) gyda Choleg Ceredigion wedi bod yn brofiad hynod o werth chweil.
“Roedd gweld cyfranogwyr yn tyfu’n greadigol ac yn ennill hyder yn eu galluoedd gwneud ffilm yn wirioneddol ysbrydoledig."
Myfyriodd Sophia Bechraki, tiwtor y cwrs cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion, ar effaith y gweithdy, ac meddai: "Mae darparu’r math hwn o brofiad byd go iawn, safon y diwydiant i’n myfyrwyr wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud.
“Gwnaeth y gweithdy BFI nid yn unig wella eu sgiliau technegol ond hefyd rhoddodd gipolwg gwerthfawr iddynt i natur gydweithredol gwneud ffilm. Rydyn ni’n hynod o falch o’r modd y gwnaeth ein myfyrwyr fynd i’r afael â’r her a sut y gwnaethon nhw ddatblygu fel gwneuthurwyr ffilm dros gyfnod yr wythnos."
Mae Academi Ffilm y BFI yn darparu ardystiad ffurfiol i fyfyrwyr, gan wella eu cymwysterau a’u gwneud yn barod ar gyfer y diwydiant creadigol.
Mae’r cydweithio hwn yn enghraifft o’r profiadau dysgu ymarferol, cysylltiedig â’r diwydiant sydd ar gael yng Ngholeg Ceredigion, sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y cyfryngau a thu hwnt.