Ioan Lord o Gwm Rheidol oedd y siaradwr gwadd yng nghyfarfod Cylch Cinio Aberystwyth Ebrill a gynhaliwyd yng Nghlwb Golff Aberystwyth.
Mae Ioan wedi dangos diddordeb yn hanes diwydiannol gogledd Ceredigion ac yn yn benodol ym maes mwyngloddio.
Mae ei ymchwil brwd a thrwyadl wedi ac yn dadlenni cyfoeth o hanes sydd wedi bod yn allweddol o safbwynt cofnodi gweithgaredd sydd yn mynd yn ôl dros ganrifoedd yn yr ardaloedd hyn.
Prin iawn yw’r wybodaeth sydd wedi ei gadw a gellir tybied bod hanes y gweithfeydd hyn wedi cael eu hanwybyddu dros y blynyddoedd, mewn cymhariaeth a’r diwydiant glo a llechi, ond mae Ioan gyda’i frwdfrydedd a’i allu unigryw i gyflwyno’r stori yn creu diddordeb newydd yn y maes.
Yn ogystal a datblygiadau diwydiannol fe roedd cloddio am fwynau yn allweddol i economi yr ardal ond hefyd i fywyd cymunedol, cymdeithasol a diwylliannol yr ardal.
Mae llawer o bentrefi gogledd Ceredigion wedi eu sefydlu a’u datblygu yn sgil y gweithfeydd mwyn er mwyn sicrhau cartrefi i’r gweithwyr a’u teuluoedd ac mae olion y rwbel yn sgil y tyllu a’r cloddio er mwyn darganfod yr haenau o fwynau gwerthfawr yn amlwg o hyd drwy’r ardal.
Mae hanes y diwydiant yn un o lanw a thrai ac er i rai o’r cwmnïau greu ffortiwn roedd yna eraill wedi dioddef colledion ariannol difrifol iawn.
Dechreuwyd mewnforio mwynau rhatach o wledydd eraill ac roedd effaith hynny yn ddifäol i’r diwydiant yng Nghymru.
Roedd cyflogaeth yn elfen bwysig iawn a llawer o deuluoedd yn ddibynnol ar y gweithfeydd.
Mae ymchwil Ioan wedi dangos fod poblogaeth pentre Goginan pan oedd y cloddio yn ei fri rhwng 500 a 600 o bobol ond erbyn hyn prin 50 a 60 o bobol sydd yn byw yn y pentref.
Mae’r hanes wedi ei gofnodi mewn cyfrol hardd O’r Ddaear Fyddar Faith – Mwyn o Ganolbarth Cymru gan Ioan Lord. Cyhoeddwyd gan Y Lolfa.
Diolchwyd i’r siaradwr gwâdd gan Geraint Vaughan a gyfeiriodd yn benodol at gyfraniad unigryw ac arwrol Ioan fel hanesydd yn diogelu bod hanes a threftadaeth cyfoethog y diwydiant yn cael ei gadw a’i hyrwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
Mae gennym lawer i’w ddysgu heddiw o lwyddiannau a heriau diwydiant mor bwysig. Fe ddaeth mwyngloddio a gwaith i bobol yr ardal y tu hwnt i gyflogaeth yn y byd amaethyddol.
Mae ein cyfarfod nesaf ar nos Wener, 12 Mai a bydd John Jones, y cyn-brifathro o Ffair Rhos yn ymuno â ni fel gwr gwadd.
Enillwyd y raffl gan John Williams. Cydymdeimlwyd a John Price ar ei brofedigaeth.
Llongyfarchwyd Eryl a Gwynfryn Evans, Llandre ar ddathlu eu penblwydd priodas 60 mlynedd yn ôl a diolchwyd i Wynne Melville Jones fel aelod o’r Cylch am fod yn dywysydd teilwng i Bared Gŵyl Ddewi Aberystwyth. Da clywed fod Eddie Jenkins, Llandre yn gwella ar ôl ei anffawd yn ddiweddar.
Anfonwn ein cofion fel aelodau’r Cylch Cinio at Tegwyn Lewis, Rhosgoch sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Bronglais gan ddymuno adferiad llwyr iddo gan obeithio y bydd nȏl yn ein plith yn fuan.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]