BYDD un o wyliau mwyaf poblogaidd Cymru i’w gweld yn fyw ac ar fwy o blatfformau S4C nag erioed o’r blaen wrth i Tafwyl ddychwelyd i Barc Bute, Caerdydd ar Orffennaf 12, 13 a 14, 2024.
Gŵyl Gymraeg Caerdydd yw Tafwyl sy’n dathlu cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg y brifddinas a sydd, erbyn hyn, wedi datblygu’n un o’r gwyliau mwyaf eiconig yng Nghymru.
Daw S4C/Lŵp – brand cerddoriaeth y sianel - â pherfformiadau byw gan nifer o artistiaid gan gynnwys Lloyd, Dom, Don + Sage Todz, Celt, Buddug, Gwilym, HMS Morris, Meinir Gwilym a llawer mwy.
Huw Stephens, Tara Bethan a Lloyd Lewis fydd yn cyflwyno rhaglenni uchafbwyntiau’r ŵyl dydd Sadwrn a dydd Sul am 8pm gan sgwrsio gefn llwyfan gyda rhai o’r artistiaid cyn cyflwyno set byw gan Yws Gwynedd am 9pm ar ddydd Sadwrn, a’r band Gwilym am 9pm ar ddydd Sul.
Yn ystod y dydd, bydd modd gwylio ffrydiau byw o lwyfannau Tafwyl ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ar S4C Clic, YouTube S4C, S4C Lŵp yn ogystal â Facebook S4C.
Bydd rhai o’r artistiaid hefyd yn cymryd yr awenau ar Instagram S4C Lŵp er mwyn dod â blas yr ŵyl i gynulleidfaoedd, lle bynnag y bont.
Meddai Huw Stephens: “Mae hi’n bleser pur cael cyflwyno gŵyl gerddorol wych o’m dinas enedigol.
“Dwi wedi edrych ymlaen at Tafwyl ers y tro diwethaf iddo ddigwydd. Dyma brofiad unigryw i gael gweld perfformiadau newydd a hen mewn un lle ac i allu rhannu hyn ar y teledu gyda phobol na allan’ nhw fod gyda ni yng Nghaerdydd.”
Meddai Tara Bethan: “Tafwyl ydi un o’m hoff wyliau – mae’n lwyfan i gerddoriaeth wych, ac mae’n cynnig cymaint i bob oed.
“Bydd S4C yn dangos llwyth o’r hyn fydd ymlaen unai ar y teledu, y platfformau cymdeithasol heb anghofio sianel YouTube S4C wrth gwrs. Fydd na’m dianc wrthom ni!”