Annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg ymhob sefyllfa yw nod ymgyrch Comisiynydd y Gymraeg wrth nodi’r cyfnod y daeth Mesur y Gymraeg i rym ddeuddeg mlynedd yn ôl.

Mae’r ymgyrch, sydd yn dwyn y teitl, Defnyddia dy Gymraeg, yn annog pawb i ddefnyddio eu Cymraeg wrth fyw eu bywydau bob dydd.

Os ym myd busnes, yn yr ysgol, ar y maes chwarae – mae’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg ymhobman ac mae’n wych gallu manteisio ar y cyfle i wneud hynny.

Fel rhan o’r ymgyrch mae cyfres o ffilmiau wedi eu creu yn amlygu’r defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Ar faes ymarfer clwb rygbi’r Scarlets, mae’r Gymraeg i’w chlywed yn naturiol yn ôl un o’r hyfforddwyr, Gareth Williams: “Cymraeg yw iaith gyntaf nifer o’r hyfforddwyr a’r chwaraewyr ac mae’n naturiol felly mai dyna a glywir o gwmpas y cae hyfforddi.

“Wrth gwrs mae’r gamp bellach yn golygu fod nifer o chwaraewyr yma sy’n siarad amrywiaeth o ieithoedd ond maent hwythau â diddordeb yn y Gymraeg ac yn y diwylliant ac ryn ninnau yn ceisio tanlinellu ei phwysigrwydd i ni fel cenedl fel bod ganddynt well ddealltwriaeth.

“Fel clwb rydym yn falch o allu cefnogi’r ymgyrch a byddwn yn annog pawb i ddefnyddio eu Cymraeg.”

Ers cychwyn yn ei swydd ddechrau’r flwyddyn mae Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, wedi nodi’n gyson mai ei hawydd hi yw i weld a chlywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio ymhobman.

Meddai: “Er mwyn i iaith fyw ac i oroesi, mae angen iddi cael ei defnyddio ymhob agwedd o gymdeithas. Dros y deuddeg mis diwethaf rwyf wedi cael y cyfle i ymweld ag amryw o sefydliadau, yn fusnesau, ysgolion, canolfannau cymunedol a charchardai hyd yn oed.

“Roedd yn braf clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol yn y lleoedd hyn a phobl yn ymfalchïo yn yr iaith.”

Yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont mae sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn hollbwysig yn ôl cydlynydd y Gymraeg yno, Bethan Chamberlain: “Mae ‘na bwyslais yma ar hybu’r iaith a’r diwylliant a hynny ar gyfer y carcharorion o Gymru a hefyd y rhai o Loegr fel eu bod yn sylweddoli bodolaeth yr iaith a’i phwysigrwydd i Gymru.

“Mae yma nifer sydd wedi derbyn addysg Gymraeg ond wedi mynd allan o’r arfer o’i defnyddio ac yn awyddus i ail gysylltu, eraill sydd yn Gymry Cymraeg ac am gyfathrebu drwy’r iaith a nifer bellach sydd yn awyddus i ddysgu’r iaith gan fod eu plant yn derbyn addysg Gymraeg.

“Mae yna ddiddordeb hefyd ymysg y staff ac rydym yn cynnig y cyfleoedd i unrhywun ddysgu a defnyddio’r iaith.”

Gallwch gefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #DefnyddiaDyGymraeg neu fynd i wefan comisiynyddygymraeg.cymru.

Bydd yr ymgyrch yn rhedeg o 27 Tachwedd – 10 Rhagfyr