AR ddechrau’r haf cynhaliwyd Taith Tractorau Dyffryn Aeron 2016 a bu’r daith yma eto yn llwyddiannus dros ben, gan godi £8,000.
Yn ddiweddar daeth aelodau’r pwyllgor ynghyd i gyflwyno dwy siec o £4,000 yr un i Ambiwlans Awyr Cymru a Ty Hafan.
Mynegwyd diolch i’r ardal gyfan am eu haelioni a’u chefnogaeth.