Mae Stifyn Parri wedi disgrifio y profiad o gyflwyno rhaglen ddogfen newydd i S4C fel un tebyg i ‘dod allan’ yn gyhoeddus fel person hoyw am yr eilwaith.

Mewn rhaglen arbennig ar Ragfyr y cyntaf i gyd-fynd â Diwrnod AIDS y Byd - Paid â Dweud Hoyw - mae Stifyn yn trafod pennod cythryblus yn hanes diweddar Prydain.

Cymal 28 yw pwnc y rhaglen. Roedd y cymal hwn yn gyfraith a fu mewn grym rhwng 1988-2003 oedd yn gwahardd sefydliadau cyhoeddus rhag addysgu plant a phobl ifanc am unrhyw beth yn ymwneud â’r gymuned LGBTQ+.

Pan ddaeth i rym yn 1988, roedd hi’n gyfnod pan roedd AIDS yn hawlio penawdau a llywodraeth Margaret Thatcher mewn grym yn San Steffan.

Mae cyflwyno’r rhaglen hon a siarad gyda chymaint o bobol ysbrydoledig wedi golygu bod Stifyn yn teimlo ei fod yn ‘dod allan’ eto mewn ffordd bositif ac adeiladol.

Medd Stifyn: “Dwi wedi cyfaddef pethau yn y rhaglen yma dwi erioed wedi eu cyfaddef o’r blaen oherwydd do’n i ddim yn barod i rannu neu do’n i ddim yn ymwybodol. Er enghraifft, dwi wedi rhannu’r ffaith tra o’n i ar Les Misérables yn y West End o’n i’n cael HIV tests ac o’dd neb yn gwybod hynny... achos oedd pobl â cymaint o ragfarn.

“Tra’n aros am y canlyniadau oeddwn i’n canu empty chairs at empty tables – roedd yr emosiwn yn real.”

Christopher Duncan oedd y cymeriad bortreadodd Stifyn yn y gyfres sebon boblogaidd Brookside ar Channel 4, cymeriad oedd yn un hanner o’r berthynas hoyw agored gynta’ ar deledu Brydeinig.

Er bod Stifyn ei hun yn hoyw, doedd e heb ‘ddod allan’ i unrhyw un bryd hynny.

Dywedodd Stifyn: “Mae pobl wedi cymryd yn ganiataol mod i wedi dod allan o’r groth all singing all dancing, ond na, dim felly oedd hi.

“Doedd genna’i ddim hyder, ddim isho pobl fod yn erbyn fi a pobl yn fy marnu i.”

Stifyn Parri,  Paid â Dweud Hoyw
Mae Stifyn yn edrych ar sefyllfa bobl hoyw mewn cymdeithas heddiw yn y rhaglen Paid â Dweud Hoyw (Submitted)

Cynhaliwyd protest enfawr yn Manceinion i wrthwynebu Cymal 28 ar Chwefror 20fed, 1988 gyda Stifyn ar flaen yr orymdaith yn dal baner ac yn annerch y dorf.

“Dim ymgyrchydd o’n i, actor oedd yn digwydd chwarae rhan cymeriad hoyw yn Brookside... ond doedd dim byd gwell gen i na bod ar flaen y gâd – whatever gâd that was – efo Ian McKellen a Michael Cashman... a chael miloedd o bobl yn ymateb, o’n i’n teimlo r’un fath â’r Pâb!”

Ymysg y rheiny mae Stifyn yn sgwrsio â nhw yn y rhaglen mae’r ymgyrchydd dros hawliau hoyw a’r awdur, John Sam Jones.

Mae John yn esbonio am yr adeg yn ei fywyd pan y cyflwynodd ei hun i seiciatrydd yn ysbyty Dinbych er mwyn trio ‘gwella’ rhag bod yn hoyw.

Roedd y driniaeth gafodd John yno yn cynnwys gwisgo breichled roddai sioc drydanol iddo.

Dywedodd John: “Ro’n i wedi amsugno’r holl negyddiaeth ynglŷn â bod yn hoyw... Os fedra i gael y driniaeth yma... bydd mam a dad byth yn gorfod gwybod mod i wedi bod yn hoyw a thynnu gwarth ar y teulu.”

Gweinidog John roddodd iddo’r hyder i geisio ail afael yn ei fywyd wedi cyfnod mor isel fel i John drio ladd ei hun.

Meddai: “Dywedodd y Gweinidog wrtha’ i, os dyna mae Duw wedi dy alw i fod mae’n rhaid i ti fod y dyn hoyw gorau y medri di. A dyna oedd sail ail adeiladu fy mywyd.”

Mae ugain mlynedd ers diddymu Cymal 28 a chymaint mwy o flynyddoedd ers cusan hoyw Stifyn ar y teledu – cusan ar foch esgorodd ar nifer o gwynion.

Mae Stifyn yn edrych ar sefyllfa bobl hoyw mewn cymdeithas heddiw hefyd, ac mae cysgod Cymal 28 yn parhau gyda nifer yn ofni ‘dod allan’ o hyd.

Roedd dod allan i Stifyn yn golygu peidio byw celwydd.

Meddai: “Cyn i mi ddod allan, roedd hi’n erbyn y gyfraith – ddylwn i fod wedi ‘nghanslo. Dyna nghryfder – does ’na neb ar wyneb y ddaear yma yn mynd i nghanslo i.

“Yr unig beth wnes i oedd gwrando a derbyn a chyhoeddi fi fy hun.”

• Paid â Dweud Hoyw. Nos Wener, 1 Rhagfyr, 9yh. Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C