SION Corn yn cyrraedd gorsaf Tren Pwllheli yn ddiweddar gyda tri o’r amryw bydd yn ei cynorthwyo dros yr wythnosau nesa pan bydd yn crwydro strydoedd Pwllheli ac o gwmpas pentrefi Pen Llyn i weld plant bach yr ardal.
Mae hyn i gyd wedi ei drefnu gan aelodau Clwb y Rotari, Pwllheli gyda cymorth amryw o grwpiau cymunedol.
Bydd yr arian a chaiff ei casglu yn cael ei rhannu rhwng Clwb y Rotari a’r gwahanol grwpiau sydd yn cymeryd rhan yn ystod yr wythnosau nesa.
Dyma rhestr o’i ymweliadau i ddod: 1 Rhagfyr, Llanaerlhaern/Trefor; 2 Rhagfyr, Morfa Nefyn; 5 Rhagfyr, Tudweiliog/Edern; 6 Rhagfyr, Botwnnog/BrynCroes/Aberdaron; 7 Rhagfyr, Llanbedrog; 8 Rhagfyr, Nefyn; 9 Rhagfyr, Pen Lon Llyn/Lon Abererch/Ffordd Maer; 12 Rhagfyr, Garreg/Fordd Mela/Promenade; 13 Rhagfyr, Sarnbach/Abersoch/Llanengam; 14 Rhagfyr, Sarn; 16 Rhagfyr, Lon Golff, Pwllheli; 19 Rhagfyr, Ala Road, Pwllheli; 20 Rhagfyr, Abererch/Y Ffôr