Roedd Seren Fach, Brithdir yn dathlu eu 10 mlwyddiant dydd Sadwrn diwethaf, gan agor eu drysau nol yn Ionawr 2006.

Cyn ail wneud yr adeilad, roedd y capel wedi cau yn 2002 ond rhoddwyd les gan yr Heneduriaeth. Ar ol cyfnod o rhyw dair mlynedd yn sicrhau grantiau, daeth y diwrnod I agor y fenter newydd – menter sydd wedi talu arei chanfed ac yn mynd o nerth I nerth. Drwy ofal staff arbennig, fe brofodd yn llwyddiant, ac mae rhai o’r staff oedd yna ar y cychwyn, megis Eleri, Gwen and Wini, yn parhau yn aelodau o staff.

Ar y cychwyn dim ond pedwar o blant oedd yn y Meithrinfa, erbyn heddiw mae hyd at 70 o blant ar y cofrestr a 260 o blant wedi mynychu yn y 10 mlynedd diwethaf. Cymaint oedd llwyddiant y Fenter bu raid sicrhau estyniad yn 2009, ynghyd a man chwarae allan bwrpasol. Mae’r fenter wedi llwyddo I ennill sawl wobr, fel Gwobrau Busnes Gwynedd a gwobt gan Barc Cenedlaethol Eryri.

Erbyn hyn mae gan seren Fach 16 o staff, yn cynnwys rhai staff gwirfoddol a dwy fyfyrwraig, gyda staff yn derbyn hyfforddiant cyson, a chael llawer o gefnogaeth gan Mudiad Meithrin. Mae Seren Fach yn edrych mlaen yn hyderus I’r cyfnod nesaf o ofalu am blant am y deg mlynedd nesaf

Hefyd scwenodd Awdures Bethan Gwanas efo help Ceri Redman efor luniau, Llyfur am Stori Seren Fach sydd ar caul gan y Feithrinfa.

Yn y llun gwelir y staff ac Eleri Jones Reolwraig Seren Fach efo Gwen Powel Jones a Wini owen rhai or staff cyntaf efo Daffydd Jones un o’r pedwar plant cyntaf gweiddriol yr Feithrinfa