ELENI, am y tro cyntaf bydd S4C yn darlledu’n fyw o lwyfan Maes yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Sadwrn olaf yr Ŵyl – gan roi cyfle i bawb adref fwynhau set y grŵp poblogaidd Eden.

Bydd holl gyffro’r Brifwyl o Barc Ynys Angharad ym Mhontypridd yn cael ei ddarlledu gydol yr wythnos yn fyw a drwy uchafbwyntiau ar draws holl lwyfannau S4C.

Yn rhan o dîm cyflwyno S4C o’r Eisteddfod eleni bydd Heledd Cynwal a Tudur Owen yn ein tywys drwy ddigwyddiadau’r bore.

Nia Roberts fydd yn ein harwain drwy’r prif seremonïau a’r cystadlu yn ystod y prynhawn, gyda Lloyd Lewis ac Eleri Sion yn crwydro’r maes gan ddod â holl flas yr Ŵyl ac yn holi’r cystadleuwyr gefn llwyfan.

Fin nos, bydd Trystan Ellis-Morris a Heledd Cynwal yn edrych yn ôl ar uchafbwyntiau’r dydd ac fe glywn ni ambell berfformiad o Lwyfan y Maes a’r Tŷ Gwerin yn ogystal â’r cystadlu hwyr.

Does dim angen colli eiliad o’r cystadlu o’r Pafiliwn gyda ffrwd arbennig Sedd o’r Pafiliwn ar S4C Clic.

Bydd S4C yn darlledu’r Oedfa fore Sul a’r Gymanfa nos Sul, a bydd Aneirin Karadog yn cyflwyno uchafbwyntiau’r Babell Lên o nos Lun i nos Sadwrn.

Fe fydd S4C yn darlledu amryw o raglenni bydd yn helpu gwylwyr ddod i adnabod yr ardal yn ystod y cyfnod yn ogystal.

Ar nos Wener 2 Awst am 20:00 bydd rhaglen Rhagflas o’r Eisteddfod yn edrych ymlaen at yr wythnos i ddod yng nghwmni rhai o wynebau cyfarwydd Rhondda Cynon Taf. Bydd y rhaglen yn rhoi blas o’r sioe Nia Ben Aur, a chawn glywed gan gystadleuwyr ar ardal wrth iddyn nhw baratoi i groesawu Cymru gyfan.

Dros yr wythnos mi fydd cyfle arall i wylio Prosiect Pum Mil: Clwb y Bont (nos Sadwrn 3 Awst); Cynefin: Pontypridd (Dydd Lun 5 Awst); Am Dro! ‘Steddfod (nos Iau 8 Awst), a bydd rhifyn arbennig o Pawb a’i Farn o’r Steddfod yn dod o’r Maes (nos Fercher 7 Awst).

Ddydd Llun, 5 Awst bydd ailddarllediad o Canu Gyda Fy Arwr, cyfres sy’n rhoi cyfle i berson lwcus berfformio gyda’u harwr cerddorol – y tro hwn, ‘H’, sy’n dod o ardal yr Eisteddfod oedd yn rhan o’r grŵp poblogaidd o’r 90au, Steps.