Ar ôl cael cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, mae'r Urdd wedi lansio rhaglen lle bydd pobl ifanc o Gymru yn helpu i fynd i'r afael â thrais rhywiol a thrais ar sail rhywedd yn India.

Gan weithio mewn partneriaeth â Her Future Coalition (HFC), bydd y rhaglen yn galluogi gwirfoddolwyr 18-25 oed o Gymru i gymryd rhan mewn rhaglenni addysg a chymorth i blant a phobl ifanc yn Kolkata sydd mewn perygl mawr.

Bydd gwahoddiad i gynrychiolwyr o India ymweld â Chymru, a byddant yn cael eu croesawu gan yr Urdd y flwyddyn nesaf. Mae'r fenter yn cael ei lansio yn ystod blwyddyn Cymru yn India, a ddechreuodd ar 1 Mawrth 2024 ac sy'n hyrwyddo gweithgareddau i gryfhau'r berthynas rhwng India a Chymru.

Dywedodd Vaughan Gething, y Prif Weinidog: “Yr Urdd yw ein sefydliad ieuenctid hynaf, ac mae ganddo hanes balch o fynd ati i ddarparu gweithgareddau i bobl ifanc yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

“Mae trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd yn dal i fod yn un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu fel cymdeithas, ac mae creu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc nad yw trais a cham-drin byth yn dderbyniol yn un o flaenoriaethau pwysicaf fy Llywodraeth. Bydd y prosiect yn rhoi profiadau gwerthfawr i wirfoddolwyr ifanc o Gymru a bydd hefyd o fudd i bobl ifanc yn Kolkata drwy helpu i fynd i'r afael â'r broblem.”

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Rydym yn hynod falch o’r bartneriaeth hon rhwng yr Urdd a Her Future Coalition. Mae eu hymrwymiad i ferched ifanc bregus yn wirioneddol ysbrydoledig.

“Lansiwyd ein prosiect #FelMerch er mwyn grymuso merched Cymru, ac rydym yn llwyr gefnogol o waith Her Future Coalition i sicrhau newid parhaol yn India.

“Ugain mlynedd yn ôl, sefydlodd yr Urdd bartneriaeth gyda dinas ac elusennau Kolkata. Edrychwn ymlaen at ailddechrau ein rhaglenni gwirfoddoli rhyngwladol trwy fynd â grŵp o lysgenhadon ifanc i India ym mis Chwefror 2025 er mwyn cefnogi rhaglenni a phrosiectau Her Future Coalition.

“Nid yn unig ydan ni’n mynd i India i rannu gwybodaeth a phrofiad, ond mi ydan ni hefyd yn mynd yno i ddysgu a chael ein hysbrydoli gan eu gwydnwch, agwedd gadarnhaol a chreadigrwydd.

“Er gwaethaf popeth, maen nhw’n llwyddo i greu llwybrau hunangynhaliol ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Sarah Symons, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Her Future Coalition: “Rydyn ni wrth ein bodd â'r bartneriaeth newydd 'ma gyda'r Urdd. Rydyn ni'n llawn cyffro am y cyfle 'ma i ddysgu oddi wrth un o sefydliadau ieuenctid hynaf, mwyaf, a mwyaf dylanwadol y byd, i rannu diwylliant ac arferion gorau, ac i groesawu gwirfoddolwyr benywaidd ifanc a fydd yn siŵr o ddifyrru ac ysbrydoli'n merched yn Kolkata.”

Bydd y manylion am sut i wneud cais i'w gweld ar wefan yr Urdd yma

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 19 Gorffennaf.