Nos Sadwrn diwethaf daeth criw dda o bobl ynghyd i ganlyn y Fari Lwyd yn ardal Mallwyd a Dinas Mawddwy, i gyd fynd a’r arfer o ddathlu’r Hen Galan.

Dyma’r 21fed tro i’r traddodiad ddigwydd, ar ôl Covid-19 yn yr ardal, ac mae’n dda gweld cyn nifer o gefnogwyr yn mwynhau’r achlysur tro i’r traddodiad ddigwydd ar ôl Covid.

Cychwynnodd y daith yn ôl yr arfer yn y Brigand’s Inn ym Mallwyd, cyn symud ymlaen i’r Buckley Arms a dod a’r noson i ben yn swnllyd iawn yn y Llew Coch yn Ninas Mawddwy.

Mari Lwyd Dinas Mawddwy Mallwyd
Parti Dawnswyr Aberystwyth i ddiddanu gyda dawnsfeydd draddodiadol (Erfyl Lloyd Davies)

Traddodiad sy’n mynd yn nol i ddiwedd y 18fed ganrif a ddechreuodd yn Sir Benfro ac wedyn i Sir Gaerfyrddin yw’r Fari Lwyd.

Gorchuddir penglog ceffyl gyda lliain gwyn, a gosod rhubanau amryliwr yn arddurn, gyda llygaid gwydyr.

Yna mae’r penglog wedi ei osod ar ddarn o bren, ac mae’r holl beth yn cael ei gario gan wr sydd wedi ei orchuddio gan y lliain gwyn.

Arweinir y Fari Lwyd gan un ymhlith criw o ddynion a hogiau, a’r traddodiad yw eu bod yn mynd o dŷ i dŷ gan ganu pennillion mewn ymgais i ddarbwyllo’r merched eu caniatau i fynd mewn i’w ymuno yn y tŷ.

Daeth Parti Dawnswyr Aberystwyth i ddiddanu gyda dawnsfeydd draddodiadol.