Ar ol eu llwyddiant trwy Feirionnydd, daeth yn amser i dim talentog Athletau Ysgol Bro Tegid deithio i Fangor, i gystadlu yn erbyn goreuon ac ysgolion enfawr Gwynedd yng nghystadleuaeth Sportshall.

Yn flynyddol mae’r gystadleuaeth hon yn creu cynnwrf ac awyrgylch drydanol ac mae’r safon yn cynyddu bob blwyddyn.

Eleni, cafodd tair record eu torri, a’r tair o Fro Tegid gyda’r ‘Speed Bounce’ ac amser mewn dwy ras gyfnewid.

Roedd agwedd y naw disgyblo’r ysgol yn Y Bala yn anhygoel a dangosodd pob un sgiliau canolbwyntio aruchel ac awch arbennig i wneud eu gorau.

Ysgol Bro Tegid ddaeth yn fuddugol yn y diwedd gydag Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn, yn ail – sydd yn dangos bod yna dalent aruchel ym Mhenllyn.

Dyma fydd y tro olaf i Fro Tegid gystadlu yn y gystadleuaeth hon fel ysgol, a dyma beth oedd diweddglo perffaith a sicrhau buddugoliaeth gref o ennill y gystadleuaeth adnabyddus hon am y seithfed flwyddyn yn olynol.

Cambrian News yr wythnos hon ar gael yn y siopau dydd Iau