Mae Plaid Cymru wedi galw ar HSBC i wrthdroi eu penderfyniad i ddiddymu’r gwasanaeth ffôn iaith Gymraeg.

Rhoddwyd gwybod i wleidyddion am benderfyniad y banc trwy lythyr ar fore Mercher, 8 Tachwedd.

Wrth ymateb i’r penderfyniad, cyflwynodd Plaid Cymru cwestiwn brys i Lywodraeth Cymru yn y Senedd, cysylltu ar frys â Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg, a hefyd galw am gyfarfod brys gyda HSBC yn San Steffan.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, Heledd Fychan AS, a llefarydd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan, Ben Lake AS: “Mae’n siom enfawr i glywed am benderfyniad HSBC i ddiddymu eu gwasanaeth Iaith Gymraeg dros y ffôn sydd, i nifer fawr o’u cwsmeriaid, yn adnodd hollbwysig.

“Rydym yn gweld nifer fawr o’u canghennau yn cau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gwasanaethau arian parod yn cael eu cyfyngu, a nawr y gwasanaeth Iaith Gymraeg yma yn cael ei ddiddymu.

“Mae nifer o gwsmeriaid yn defnyddio HSBC oherwydd eu gwasanaeth Cymraeg, ac mae’n wir i ddweud nad yw’r banc wedi gwneud digon i’w hyrwyddo. Mae hyn yn ergyd enfawr i’w cwsmeriaid yng Nghymru yn enwedig eu cwsmeriaid hŷn, a’r rhai sydd ddim â mynediad i dechnoleg ddigidol.

“Mae addewid y banc i ‘drefnu galwad yn ôl yn Gymraeg, o fewn tri diwrnod gwaith’ nid yn unig yn ansensitif i’r pwysau ariannol y bydd rhai pobl yn eu hwynebu, ond hyn yn beryglus. I lawer, nid ‘dewis’ yw cael mynediad i’w banc trwy’r Gymraeg - mae’n anghenraid. Maen nhw’n dweud eu bod nhw ‘wedi cadarnhau bod pob cwsmer yn gallu bancio yn Saesneg.’ Nid yw hyn yn wir.

“Mae angen i HSBC wyrdroi’r penderfyniad hwn, a gwneud mwy i hyrwyddo a darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.”

Dywed llefarydd ar ran HSBC: “Hoffwn eich sicrhau na chymerwyd y penderfyniad hwn yn ysgafn. Rydym yn ymdrechu i deilwra ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid, ac ar ôl adolygiad manwl o’n llinell ffôn gwasanaeth cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg, rydym wedi canfod nad yw’r llinell hon bellach yn cael ei defnyddio’n llawn. Rydym wedi gweld gostyngiad cyson yn y defnydd - rydym yn derbyn 22 o alwadau i’r llinell bob dydd, o’i gymharu â 18,000 i’n llinellau Saesneg, ac mae 73% o ddefnyddwyr gwasanaeth yn ffonio unwaith neu ddwywaith y flwyddyn yn unig.

“Ar ôl 15 Ionawr, os oes angen i gwsmeriaid ein ffonio, byddant yn dal i dderbyn y gwasanaeth y maent wedi arfer ag ef, ond yn Saesneg. Bydd ein hasiantau Saesneg eu hiaith yn gallu cynorthwyo gydag unrhyw anghenion bancio cwsmeriaid.

“Rydym yn cydnabod mai bancio yn Gymraeg yw eu dewis o hyd i rai cwsmeriaid, felly gallwn drefnu galwad yn ôl yn Gymraeg, o fewn 3 diwrnod gwaith, i helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. Er ein bod yn deall nad dyma yw eu dewis cyntaf, rydym wedi cadarnhau bod pob cwsmer yn gallu bancio yn Saesneg.

““Rydym yn falch o’n hymdrechion i wasanaethu ein cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith, ond oherwydd y lefel eithriadol o isel o alwadau i’n llinell Gymraeg mae angen i ni wneud newidiadau i fancio ffôn o 15 Ionawr. Os yw cwsmer eisiau siarad â siaradwr Cymraeg, mae modd trefnu hynny o hyd. Byddwn yn parhau i gael cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn hanner ein canghennau Cymraeg a byddwn yn parhau i ymateb i ohebiaeth cwsmeriaid yn Gymraeg.”