Cynhaliwyd Gwasanaeth Carolau hyfryd yn y capel ar fore gaeafol rhewllyd ddydd Sul, 11 Rhagfyr, ac er mai ond ychydig a ddaeth allan o’r herwydd, teimlai pob un ei bod wedi bod yn oedfa fendithiol.

Cymerwyd rhan gan Ian Huws, Lyn, Jên ac Anni Ebenezer, Sioned Fflur a Neli Jones, a chanwyd y carolau i gyfeiliant Ian ar yr acordion a Neli ar yr organ.

Mae plant ac ieuenctid yr Ysgol Sul wedi bod yn brysur fel arfer dros y ‘Dolig. Roeddent wedi cael gwahoddiad i ganu Carolau yn y Farchnad Nadolig ym Mhafiliwn Bont ar ddydd Sul, 20 Tachwedd, gan gael hwyl ar y canu yn eu simperi Nadolig smart a chael croeso arbennig gan y gynulleidfa a’r stondinwyr.

Bore dydd Sul, 18 Rhagfyr, cynhaliwyd y Gwasanaeth Nadolig a pherfformiad o Ddrama’r Geni yn y capel, a chlod mawr i Megan a Mari, Rhiannon, Emrys, Buddug ac Anest, Delun a Guto, Gwenno, Cain a Jess, Gwawr, Mati a Beca, Elen, Mari Wyn a Steffan, Caio, Anni ac Ifan, Deio a Jano, Rhys ac Elain am wneud eu gwaith gyda graen.

Ysgol Sul Rhydfendigaid yn eu Gwasanaeth Nadolig yn y capel.
Ysgol Sul Rhydfendigaid yn eu Gwasanaeth Nadolig yn y capel. (-)

Roedd yn hyfryd gweld cynulleidfa o 80 yn bresennol yn y capel. Croesawyd pawb gan Neli Jones, a diolchodd i’r ddwy chwaer Ann Williams a Jên Ebenezer am eu cymorth amhrisiadwy i baratoi’r plant ar gyfer y gwasanaeth, a thalodd deyrnged i’r rhieni am eu cefnogaeth i’r plant a’r Ysgol Sul.

Gwnaeth Emrys a Guto y casgliad a oedd yn mynd tuag at Apêl Hadau Gobaith Cymorth Cristnogol. Traddodwyd y fendith gan Y Parch Olaf Davies; roedd ef a’i briod wedi teithio’r holl ffordd o Fangor i weld eu hŵyr a’u hwyres yn cymryd rhan.

Yn dilyn y gwasanaeth yn y capel, Neuadd Pantyfedwen oedd y gyrchfan nesa, i fwynhau paned a mins peis cyn i Sion Corn dalu ymweliad a rhannu anrhegion i’r plant.

Diolch i John a Barbara Watkin eleni eto am y goeden Nadolig hardd ar gyfer y capel, a diolch i John am fod mor garedig a helpu Sion Corn.