Pan ddaw’r cyfnos, mae’n brydferth. Mae’r awyr yn newid ei lliw a daw golau gwahanol ar y byd.

Cyfnos yw’r gyfrol ddiweddaraf o gerddi gan y Prifardd Alan Llwyd. Y mae’n un o’n prif feirdd ni’n ddi-os, yn gofiadur i’r genedl yn ogystal ag yn fardd.

Y mae’r gyfrol hon yn cynnwys rhai o gerddi gorau Alan; y mae ei awen a’i ddawn yn amlwg ynddi.

Gellid dweud bod Alan wedi cyrraedd cyfnos ei fywyd a dyma bwynt ardderchog i edrych yn ôl a thafoli ond hefyd i edrych tua’r dyfodol, gan obeithio.

Casgliad telynegol ac arbennig a geir yn Cyfnos, yn edrych ar dreigl amser o safbwynt oedolyn a welodd amser yn llithro heibio ac sy’n gresynu at y ffaith fod amser yn cerdded o hyd.

Fel y dywed yn ei gerdd i’w ŵyr Tristan, ‘Y Rhodd Werthfawr’: fel hyn... y mae amser yn diflannu, llithro mor rhwydd bob blwyddyn, llithro a rhuthro i’w hynt fel y nos o flaen y wawr, fel nant yn cyflymu, yn byrlymu heb arafu ei brys. Amser yw popeth.’

Mae cerddi yma i enwogion byd y sgrin fach, o Syr Wynff a Plwmsan i Sharon Morgan, a cherddi sy’n tafoli heddwch a rhyfel, a hynny yn yr amserau tyngedfennol hyn.

Mae hefyd yn canu i gydnabod pobl leol a chymeriadau Cwm Tawe. Ceir yma gerddi sy’n edrych yn ôl ar ei deulu ei hun - cerddi i’w blant, i’w wraig ac i’w wyrion - a’r cyfan yn drymlwythog o gariad a pharch.

Yn ddi-os y mae grym y geiriau a’r awen yn tasgu dros bob tudalen yn Cyfnos. Dyma gyfrol y bydd llengarwyr yn sicr o fynd yn ôl ac yn ôl ati i bori rhwng ei thudalennau.

Yr artist Iwan Bala sydd wedi’i gomisiynu i greu’r ddelwedd arbennig ar glawr y gyfrol.

• Mae gwahoddiad a chroeso cynnes iawn i bawb ymuno â Barddas ac Alan Llwyd i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol arbennig hon am 6.30yh nos Lun, Mawrth 6ed, yng Nhganolfan Taliesin ar gampws Prifysgol Abertawe.

Bydd y Prifardd Tudur Hallam yn holi Alan Llwyd am ei gyfrol newydd.